A oes angen Asesiad Risg Tân arnaf?
Mae’n ddyletswydd ar y person cyfrifol i gynnal, cadw cofnod ysgrifenedig ac adolygu’n rheolaidd asesiad risg tân o’r eiddo. Bydd hwn yn nodi’r hyn sydd angen i chi ei wneud i atal tân a chadw pobl yn ddiogel. Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i bob lleoliad annomestig, megis lle mae pobl yn gweithio, yn ymweld ag ef neu’n aros, gan gynnwys gweithleoedd, a rhannau annomestig adeiladau preswyl amlfeddiannaeth (e.e. coridorau cymunedol, grisiau, ystafelloedd peiriannau). Nid yw’r gofynion yn berthnasol i leoliadau domestig unigol.
Dilynwch ein proses pum cam syml:
Mae’r siart Asesiad Risg Diogelwch Tân yn rhoi gwybodaeth fanylach am y camau hyn.
Bydd angen i chi ystyried:
Gallwch gwblhau Asesiad Risg Tân eich hun, gyda help canllawiau asesu risg diogelwch tân. Gallwch ddefnyddio’r llyfryn Asesu Risg Tân fel templed i gofnodi eich Asesiad Risg Tân.
Os nad oes gennych chi’r arbenigedd na’r amser i gwblhau’r Asesiad Risg Tân, bydd angen i chi benodi asesydd risg tân ‘cymwys’ i helpu. I gael arweiniad ar ddewis aseswr risg tân cymwys, cyfeiriwch at y canllaw isod.
Gallwch lawrlwytho’r canllawiau canlynol o’n hadran cyngor, dogfennau ac adnoddau i’w lawrlwytho.
Hefyd, cewch arweiniad ar: