Mae’r ffordd yr ydym yn ymateb i Larymau Tân Awtomatig (LTA) yn newid

Mae systemau larwm tân yn rhoi rhybudd cynnar o dân, ac maent yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gadw pobl yn ddiogel mewn argyfwng sy’n gysylltiedig â thân.

Yn anffodus, galwadau diangen yn hytrach na thanau yw’r rhan fwyaf o alwadau y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn eu derbyn gan systemau larwm awtomatig, sy’n golygu bod ein criwiau yn aml yn cael eu galw allan yn ddiangen. Gall galwadau diangen gael eu hachosi gan fygdarthau coginio, llwch, neu ddiffyg cynnal a chadw.

Mae’r signalau tân diangen (STD) hyn yn cael effaith sylweddol ar ein hadnoddau. Yn 2023-2024, aethom i 5,982 o STD, oedd yn cyfrif am 31.5% o’r holl ddigwyddiadau. Mae hyn yn dargyfeirio adnoddau oddi wrth weithgareddau eraill, mwy gwerth chweil, gan gynnwys ein gwaith i leihau risg, a’n hyfforddiant hanfodol.

 

 

Beth yw’r newid?

O fis Ionawr 2025 ymlaen, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn mabwysiadu model ymateb LTA risg cysgu, yn ystod y nos yn unig (18:00 – 07:59).

Mae hyn yn golygu na fyddwn bellach yn mynychu galwadau LTA i safleoedd busnes masnachol a gweithleoedd, megis ffatrïoedd, swyddfeydd, siopau a chyfleusterau hamdden, oni bai bod tân wedi’i gadarnhau.

Byddwn yn ymateb i alwadau LTA mewn rhai adeiladau yn ystod oriau’r nos yn unig (18:00-07:59). Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Blociau o fflatiau
  • Llety gwarchod
  • Tai amlfeddiannaeth (HMO)
  • Carchardai
  • Ysbytai
  • Gwestai/motelau
  • Risg arall wrth gysgu

Yn ystod y dydd, dylai’r sawl sy’n gyfrifol am yr adeilad sefydlu gweithdrefnau addas i ymchwilio’n ddiogel i larwm tân yn canu cyn ffonio 999. Bydd gweithredwyr ein Hystafell Reoli yn gofyn am gadarnhad o dân gwirioneddol, neu arwyddion o dân, cyn danfon peiriant.

Yn unol â hynny, bydd sefyllfaoedd pan na fydd peiriant yn cael ei anfon ar ôl derbyn galwad sy’n deillio o weithredu system larwm tân, oni bai y gall y galwr gadarnhau bod tân neu arwyddion o dân. Gall y rhain gynnwys arwyddion gweledol, megis fflamau neu fwg, arogl llosgi, neu unrhyw signal gan larwm tân arall.

 

Byddwn bob amser yn ymateb i danau a gadarnhawyd a fydd yn denu ymateb brys llawn neu uwch, gan ddibynnu ar y wybodaeth a dderbynnir.

Ar gyfer rhai safleoedd, megis cartrefi nyrsio neu gartrefi gofal ac adeiladau preswyl uchel nad ydynt yn cydymffurfio â chyfraith diogelwch tân ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i ymateb i alwadau LTA yn ystod y dydd.

Ni fydd y newid arfaethedig hwn yn effeithio ar anheddau preifat (er enghraifft, tai).

Rhagwelir y bydd y newid hwn yn lleihau galwadau diangen yn fawr, gan sicrhau bod ein criwiau ar gael ar gyfer ymateb brys arall a gweithio yn y gymuned i leihau risg.

 

Pam ydym ni’n cyflwyno’r newid?

Byddai’r cynnig hwn wedi lleihau ein presenoldeb mewn digwyddiadau LTA o bron i 60% yn 2023-2024, neu 19% o’r holl ddigwyddiadau

Bydd y newid arfaethedig hwn yn golygu ein bod yn debycach i wasanaethau tân ac achub eraill, gan gynnwys Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal ag arbed amser ac adnoddau gwerthfawr, a lleihau’r effaith ar ffactorau eraill, megis;

  • Parodrwydd gweithredol (peidio â chael eu dargyfeirio oddi wrth argyfyngau gwirioneddol)
  • Y risg diangen i’r criwiau a’r cyhoedd wrth ymateb
  • Llai o darfu ar ein gweithgareddau diogelwch cymunedol gwerthfawr
  • Llai o aflonyddu ar hyfforddiant personél gweithredol
  • Gwella’r effaith amgylcheddol trwy ddileu symudiadau diangen o beiriannau
  • Lleihau’r straen ariannol ar y Gwasanaeth.

 

Beth yw manteision lleihau larymau ffug?

  • Gall pob larwm ffug wneud pobl yn hunanfodlon wrth glywed larwm tân
  • Mae cost i chi fel busnes achos yr amser cynhyrchiol a gollwyd
  • Ni fydd GTADC yn cael ei ddargyfeirio oddi wrth argyfyngau eraill, hyfforddiant, a gwaith atal ac amddiffyn arall
  • Bydd yn lleihau nifer yr ymatebion golau glas yn lleihau risg ar ein ffyrdd.

Bydd y model newydd yn ein galluogi i gyflawni gostyngiad sylweddol o ran effaith signalau tân diangen, gan sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed o fewn ein cymunedau yn parhau i gael ymateb amserol.

 

Beth ddylwn ei wneud os byddaf yn clywed y larwm tân?

Os byddaf yn galw achos bod LTA yn cael ei actifadu ond nid wyf yn siŵr a oes tân, a fydd GTADC yn dal i fynychu?

Bydd hyn yn dibynnu ar ba wybodaeth y gallwch ei rhoi. Os ydych chi’n meddwl bod yr eiddo yn eiddo preswyl, yn un o’r eithriadau, neu’n eiddo ag arwyddion o dân megis mwg yn dod o’ lleoliad, byddwn yn dal i fynychu.

Fodd bynnag, os gwyddoch ei fod yn eiddo heb unrhyw risg cysgu, ac nad oes unrhyw arwydd o dân, ni fyddwn yn mynychu.

Os byddaf yn clywed larwm tân, sut mae ymchwilio? Beth mae disgwyl i fi ei wneud i ymchwilio? A fydd ymchwilio i achos yr ysgogiad yn fy rhoi mewn perygl?

Dylid penderfynu ar y weithdrefn hon ymlaen llaw, ei hystyried yn unol â’r asesiad risg tân ar gyfer y safle, a’i llunio mewn cynllun argyfwng wedi’i deilwra. Ni ddylai neb gael ei roi mewn perygl, ac ni ddylech roi eich hun mewn perygl. Gallwch ddarllen ein harweiniad ar ‘ymchwiliadau diogel i signalau larwm tân’ yma…

 

Yswiriant a dyletswydd gyfreithiol

A oes angen i mi hysbysu fy yswirwyr cyfredol am eich newid o ran ymateb i weithrediadau LTA?

Mae hwn yn fater rhyngoch chi a’ch yswiriwr, nid ein lle ni yw gwneud sylwadau arno. Fodd bynnag, gall GTADC gadarnhau y bydd ymateb yn parhau i gael ei ddanfon i bob tân a gadarnhawyd yn ein hardal.

A oes gan GTADC ddyletswydd gyfreithiol i fynychu?

The statutory duties of Fire and Rescue Services in England and Wales are set out in the Fire and Rescue Services Act 2004. There are no requirements within this act that compel a fire and rescue service to attend a call to an AFA if no fire is suspected or confirmed. Nodir dyletswyddau statudol y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru a Lloegr yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Nid oes unrhyw ofynion o fewn y ddeddf hon sy’n gorfodi gwasanaeth tân ac achub i fynychu galwad i LTA os nad oes amheuaeth neu gadarnhad bod tân.

 

Arweiniad pellach

Mae arweiniad pellach ar gael ar ein tudalen Diogelwch Rhag Tân i Fusnesau.

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnoch mewn perthynas â’r newid yn ein hymateb i larymau tân awtomatig o Ionawr 2025, anfonwch e-bost at afaenquiries@decymru-tan.gov.uk

I gael arweiniad penodol ar ddileu larymau tân diangen, cyfeiriwch at y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol.