Ar gyfer adeiladau aml-ddefnydd a phenodol
Sut mae hyn yn gweithio gydag adeiladau amlddefnydd? Siopau gyda fflatiau uwchben?
Bydd yr holl alwadau LTA i GTADC yn cael eu hystyried trwy ein proses hidlo galwadau ac os oes unrhyw arwydd yr effeithir ar anheddau preifat neu eiddo eithriedig eraill, yna anfonir ymateb. Bydd hyn yn cael ei benderfynu gan y gweithredwr galwadau, ond nid oes unrhyw ffordd o benderfynu a yw unrhyw eiddo penodol yn ddefnydd cymysg, oni bai bod y gweithredwr yn cael ei hysbysu ar y pwynt galw. Dylai fod gan Ganolfannau Derbyn Larymau (CDG) sy’n rheoli ac yn trosglwyddo galwadau larwm tân ddata sylfaenol ar y safle y mae’r signal larwm tân yn tarddu ohono.
Felly, efallai na fydd LTA sy’n actifadu heb unrhyw arwydd o dân mewn siop yn denu ymateb ond dylai unrhyw lety preswyl fod â gwahaniad tân addas oddi wrth unrhyw elfennau masnachol o’r adeilad. Fodd bynnag, os bydd tân yn cael ei gadarnhau, yna anfonir ymateb.
Sut bydd GTADC yn ymateb i LTA mewn adeilad amlfeddiannaeth gyda nifer fawr o ymwelwyr?
Bydd ymateb GTADC i LTA mewn lleoliadau sy’n croesawu nifer fawr o ymwelwyr yn dibynnu ar yr adeilad. Bydd gan wahanol adeiladau brotocolau diogelwch tân gwahanol, er enghraifft bydd rhai megis adeilad theatr rhestredig yn cael eu heithrio a byddant yn parhau i dderbyn ymateb i LTA, ond ni fydd adeilad mwy modern sydd heb ei restru yn cael ei eithrio ac ni fydd yn derbyn ymateb i LTA.
Os oes gan adeilad ddefnydd cymysg a bod unrhyw ddangosyddion yr effeithir ar y rhannau preswyl neu eithriedig o’r adeilad yna bydd GTADC yn ymateb i’r LTA. Bydd GTADC yn parhau i fynychu pob tân a gadarnhawyd.
Sut mae GTADC yn gwybod a yw adeilad yn adeilad preswyl?
Mae GTADC eisoes yn cadw ystod o ddata ar adeiladau ar draws De Cymru. Yn ogystal â hyn, lle nad yw’n amlwg, er enghraifft mewn llety preswyl, neu garchardai, fel rhan o weithdrefnau delio â galwadau yn Ystafell Reoli GTADC, gofynnir i’r sawl sy’n galw gadarnhau a yw’r adeilad yn un preswyl. Os na allant gadarnhau, caiff ei drin fel un preswyl, ac anfonir ymateb.
Sut ydym yn gwybod ble mae’r holl adeiladau amlddefnydd?
Nid yw hon o reidrwydd yn wybodaeth y mae GTADC yn ei chadw at ddibenion danfon, fel arfer daw gan y galwr.
Ydyn ni’n gwybod a yw’r larwm yn dod o’r busnes neu’r man preswyl?
Mae pob system yn wahanol a dim ond i’r wybodaeth a roddir i ni y gall GTADC ymateb. Bydd pob galwad LTA yn cael ei hystyried trwy ein proses hidlo galwadau ac os oes unrhyw arwydd yr effeithir ar anheddau preifat neu eiddo eithriedig eraill, yna anfonir ymateb.
Adeiladau arall
Os yw ysgol yn wag pan fydd y signal tân yn cael ei anfon i’r CDG, a fydd GTADC yn mynychu pan nad oes neb ar y safle i ‘gadarnhau galwad’?
Do, ychwanegwyd ysgolion at yr eithriadau yn dilyn adborth o’r broses addysg ac ymgysylltu.
Ydy canolfannau preswyl ieuenctid wedi’u cynnwys ym mholisi eithrio LTA GTADC?
Ydyn, mae pob eiddo preswyl wedi’i gynnwys ym mholisi eithrio GTADC a byddant yn cael ymateb i LTA ar unrhyw adeg o’r dydd.
A fydd GTADC yn ymateb i alwadau diangen mewn mannau addoli?
Bydd ymateb GTADC i LTA mewn man addoli yn dibynnu ar yr adeilad. Os yw addoldy yn adeilad rhestredig, yna bydd hwnnw wedi’i eithrio ac yn parhau i dderbyn ymateb i LTA. Fodd bynnag, ni fydd man addoli mwy modern nad yw wedi’i restru wedi’i eithrio ac ni fydd yn derbyn ymateb i LTA. Bydd GTADC yn parhau i fynychu pob tân a gadarnhawyd.
Ydy canolfannau iechyd wedi’u cynnwys ym mholisi eithrio GTADC?
Na, nid yw safleoedd canolfan iechyd yn dod o dan y polisi eithriadau ar gyfer LTA. Fodd bynnag, bydd GTADC yn parhau i fynychu pob tân a gadarnhawyd ym mhob eiddo.
A fydd canolfannau data yn cael eu cynnwys ym mholisi eithrio GTADC?
Na, nid yw canolfannau data yn dod o dan y rhestr eithriadau ar gyfer LTA. Fodd bynnag, bydd GTADC yn parhau i fynychu pob tân a gadarnhawyd.
Ydy gorsafoedd yr heddlu wedi’u cynnwys ym mholisi eithriadau GTADC?
Mae gorsafoedd heddlu â siwtiau dalfa wedi’u heithrio fel “sefydliadau diogel eraill” yn y polisi eithrio a byddant yn parhau i dderbyn ymateb i LTA.
Ar gyfer adeiladau sy’n cynnwys anifeiliaid – a fyddant yn cael eu heithrio ac yn cael cynnig ymateb awtomatig neu’n destun her galwad?
Ystyrir ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw eiddo masnachol yn wag os yw’r busnes yn ymwneud â gofalu am anifeiliaid. Hefyd, nid yw data wedi awgrymu bod y math hwn o eiddo yn peri risg arbennig. Felly, nid oes unrhyw reswm i eithrio’r mathau hyn o safleoedd yn awtomatig.
Fodd bynnag, mae GTADC yn cydnabod y gallai rhai safleoedd unigol beri risg i anifeiliaid pe bai tân. Felly, yn dilyn adolygiad lleol o eiddo o’r fath yn nodi bod yr holl ragofalon diogelwch priodol wedi’u cymryd a bod risg sylweddol i anifeiliaid yn dal i fodoli, yna gellid ystyried eithrio’r safle. Bydd angen penderfynu ar lefel y risg ac a fydd eithriad yn berthnasol ar sail lleoliad unigol.
Ydy safleoedd lle mae batris lithiwm yn cael eu storio wedi’u cynnwys ym mholisi eithriadau GTADC?
Nid yw mwyafrif galwadau LTA a dderbynnir yn cynnwys y math hwnnw o wybodaeth ac mae 99% o’r LTA y mae GTADC yn eu mynychu yn alwadau diangen, nid yn danau. Ni fyddai storio batris Lithiwm yn unig yn golygu bod eithriad yn cael ei wneud.