Sut mae gwneud cais am eithriad?

Bydd GTADC yn ystyried ceisiadau am eithriadau. Os ydych yn teimlo bod gennych achos arbennig i’w wneud mewn perthynas â risg benodol yn eich eiddo, yna dylech gysylltu â’n hadran Diogelwch Tân i Fusnesau drwy afaenquiries@decymru-tan.gov.uk

Mae GTADC yn cydnabod y gallai tân mewn rhai safleoedd unigol gael effaith sylweddol ar gymdeithas/cymuned, ac felly gellid eu hystyried ar gyfer eithriad. Unwaith eto, bydd angen pennu lefel y risg ac a all eithriad fod yn berthnasol ar sail lleoliadau unigol

 

Eithriadau –

Mae rhai eithriadau i’r model a ddisgrifir uchod, sy’n cynnwys:

  • Bydd adeiladau preswyl uchel nad ydynt ar hyn o bryd yn cydymffurfio â chyfraith diogelwch tân, er enghraifft, y rhai y cyflwynwyd hysbysiad gorfodi iddynt (HRRB) yn parhau i gael ymateb presenoldeb a bennwyd ymlaen llaw (PDA) llawn ddydd a’r nos.
  • Bydd cartrefi nyrsio/gofal preswyl yn parhau i dderbyn ymateb presenoldeb a bennwyd ymlaen llaw (PDA) llawn bob awr

Bydd angen i safleoedd eraill y mae dymuniad i barhau i dderbyn ymateb awtomatig iddynt ddarparu achos busnes a fydd yn cael ei ystyried yn erbyn meini prawf risg, ond disgwylir iddynt symud tuag at gynllun tân llawn. Bydd eithriadau unigol penodol yn cael eu hystyried gan y Gwasanaeth fesul achos.

 

 

Eithriadau

 

Perchnogion busnes: sut y gallwch chi helpu i leihau larymau tân diangen neu signalau tân diangen

Rydym gefnogi gosod systemau larwm tân awtomatig yn llwyr, ond mae’n rhaid i’r systemau hyn gael eu rheoli a’u cynnal a’u cadw’n briodol er mwyn lleihau nifer y galwadau diangen a sicrhau eu bod yn canu ar yr adeg gywir ac yn sicrhau’r ymateb cywir.

Rhaid i chi weithio gyda’ch asesydd risg tân a diweddaru eich asesiad risg tân gydag unrhyw newidiadau.

Mae camau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Adolygu eich asesiad risg diogelwch tân a chadw cofnod o’r holl alwadau diangen i nodi unrhyw gynnydd a/neu dueddiadau y dylid eu codi gyda’ch peirianwyr larymau
  • Creu cynllun gweithredu i leihau’r tebygolrwydd o gael rhybudd ffug
  • Gwirio’r mathau o synwyryddion a’u lleoliadau – a fyddai symud synwyryddion neu newid y math a ddefnyddir yn lleihau actifadu? Ceisiwch gyngor gan eich peiriannydd larymau
  • Uwchraddio systemau canfod tân awtomatig (SCTA) sydd wedi darfod â thechnoleg fwy modern, e.e. synwyryddion ‘aml-synhwyro’
  • Cynnal systemau canfod tân awtomatig yn briodol
  • Gosod mannau galw â llaw gyda gorchuddion plastig amddiffynnol mewn ardaloedd lle mae problemau, ardaloedd agored i niwed neu lle mae traffig uchel
  • Canfod a oes unrhyw alwadau diangen o ganlyniad i actifadu’r pwyntiau galw anghywir, megis mannau rhyddhau drysau brys gwyrdd
  • Ystyried a oes angen cyswllt â chanolfan derbyn larymau, neu a yw’n briodol i atal y swyddogaeth deialu awtomatig tra bod adeiladau’n cael eu defnyddio, neu ar adegau penodol o’r dydd.
  • Ceisio arweiniad a chyngor pellach gan eich darparwr system larwm neu asiant gwasanaethu yn ogystal â swyddog diogelwch tân Busnes ein gwasanaeth.