Perchnogion busnes: sut y gallwch chi helpu i leihau larymau tân diangen neu signalau tân diangen

Rydym gefnogi gosod systemau larwm tân awtomatig yn llwyr, ond mae’n rhaid i’r systemau hyn gael eu rheoli a’u cynnal a’u cadw’n briodol er mwyn lleihau nifer y galwadau diangen a sicrhau eu bod yn canu ar yr adeg gywir ac yn sicrhau’r ymateb cywir.

Rhaid i chi weithio gyda’ch asesydd risg tân a diweddaru eich asesiad risg tân gydag unrhyw newidiadau.

Mae camau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Adolygu eich asesiad risg diogelwch tân a chadw cofnod o’r holl alwadau diangen i nodi unrhyw gynnydd a/neu dueddiadau y dylid eu codi gyda’ch peirianwyr larymau
  • Creu cynllun gweithredu i leihau’r tebygolrwydd o gael rhybudd ffug
  • Gwirio’r mathau o synwyryddion a’u lleoliadau – a fyddai symud synwyryddion neu newid y math a ddefnyddir yn lleihau actifadu? Ceisiwch gyngor gan eich peiriannydd larymau
  • Uwchraddio systemau canfod tân awtomatig (SCTA) sydd wedi darfod â thechnoleg fwy modern, e.e. synwyryddion ‘aml-synhwyro’
  • Cynnal systemau canfod tân awtomatig yn briodol
  • Gosod mannau galw â llaw gyda gorchuddion plastig amddiffynnol mewn ardaloedd lle mae problemau, ardaloedd agored i niwed neu lle mae traffig uchel
  • Canfod a oes unrhyw alwadau diangen o ganlyniad i actifadu’r pwyntiau galw anghywir, megis mannau rhyddhau drysau brys gwyrdd
  • Ystyried a oes angen cyswllt â chanolfan derbyn larymau, neu a yw’n briodol i atal y swyddogaeth deialu awtomatig tra bod adeiladau’n cael eu defnyddio, neu ar adegau penodol o’r dydd.
  • Ceisio arweiniad a chyngor pellach gan eich darparwr system larwm neu asiant gwasanaethu yn ogystal â swyddog diogelwch tân Busnes ein gwasanaeth.