Lleihau Larwm Ffug
Gellir gwella diogelwch eich eiddo busnes a’r bobl ynddo yn fawr drwy osod system synhwyro tân a larwm awtomatig. Pan gaiff ei osod, ei ddefnyddio a’i gynnal yn briodol, gall fod yn ffactor pwysig o ran lleihau’r perygl i fywyd a chyfyngu ar ddifrod i’ch eiddo, oherwydd ei ymateb cyflym wrth ganfod tân. Yn anffodus, gall yr union nodweddion sy’n darparu’r ymateb cyflym hwn hefyd greu larymau ffug, o ffynonellau eraill, megis coginio, stêm, ysmygu, ac ati.
Mae larwm ffug yn signal larwm tân o System Synhwyro Tân a Larwm Awtomatig, oherwydd achos heblaw tân gwirioneddol.
Os taw chi yw’r ‘person cyfrifol’ mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch chi i reoli mesurau diogelwch tân yn eich eiddo. Gall methu â gwneud hynny yn fedrus arwain at erlyniad o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Systemau Synhwyro a Larymau Tân awtomatig priodol wedi’u gosod (lle bo angen) a bod y safle, y cyfleusterau, y cyfarpar a’r dyfeisiau yn cael eu cynnal yn effeithiol ac yn rheolaidd a’u bod yn gweithio’n iawn er mwyn sicrhau diogelwch y bobl yn y safle. Rhaid i’r person cyfrifol hefyd, lle bo angen, enwebu person cymwys i weithredu’r mesurau hyn.
Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn amcangyfrif bod cost galwadau ffug yn y DU tua £1,000,000,000 y flwyddyn. Mae llawer o’r gost hon yn deillio o golli cynnyrch ac ymyriadau mewn gweithgareddau busnes.
Mae galwadau ffug yn effeithio ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru drwy:
Os yw eich system yn cael ei monitro, cyn profi neu wneud unrhyw waith cynnal a chadw ar eich System Synhwyro a Larwm Tân Awtomatig, rhaid i chi roi gwybod i’r Ganolfan sy’n derbyn larymau bod y profion a’r gwaith cynnal a chadw yn digwydd a’u hysbysu eto ar ôl ei gwblhau.
Hefyd, sicrhau:
Mae cael gweithdrefn ymchwilio effeithiol ar gyfer adegau pan fo’r System Synhwyro a Larwm Tân Awtomatig yn gallu cyfyngu ar y tarfu a achosir i’ch busnes gan larymau ffug.
Mae Systemau Synhwyro Tân a Larymau Awtomatig yn ardderchog o ran canfod tân yn y camau cynnar. Drwy gael strategaeth i ymchwilio i achos actifadu yn syth ar ôl iddo ddigwydd, gall eich staff nodi larymau ffug yn gyflym, ailosod y system a dychwelyd i’r gwaith
Os byddwch yn darganfod tân neu fwg fel rhan o’ch ymchwiliad, peidiwch â rhoi eich hun nac eraill mewn perygl. Ewch o’r lleoliad yn gyflym ac yn ddiogel, Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Dylech gysylltu â’ch asesydd risg tân mewn perthynas â’r uchod.
Ailosod y larymau
SYLWER: Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ailosod systemau synhwyro a larymau tân awtomatig. Gallai ailosod y system heb ymchwiliad priodol leihau effeithiolrwydd yr ymchwiliad dilynol i achos y ffug larwm gan beiriannydd cymwys.
Dylech gysylltu â’ch Asesydd Risg Tân mewn perthynas â’r uchod.
Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ailosod Systemau Synhwyro a Larymau Tân Awtomatig. Gallai ailosod y system heb ymchwiliad priodol leihau effeithiolrwydd yr ymchwiliad dilynol i achos y ffug larwm gan beiriannydd cymwys.
Arweiniad pellach
Am gyngor ychwanegol ar leihau nifer y larymau ffug, cysylltwch â’ch asesydd risg tân a’ch cwmni cynnal a chadw larymau tân.
Dilynwch ein Tîm Diogelwch Tân i Fusnesau ar LinkedIn