Cais am ymweliad
Bydd ymarferydd Diogelwch Cartref yn ffonio / e-bostio / anfon neges destun atoch ac yn mynd trwy gyngor gyda chi yn gofyn ychydig gwestiynau i chi am eich cartref, os bydd angen larymau bydd yr Ymarferydd Diogelwch Cartref yn sgwrsio trwy ychydig o opsiynau i gael y rheini atoch chi.
A ydych wedi sefyll ein prawf hunanasesu i weld a ydym yn argymell ymweliad diogelwch cartref? Os na, cymerwch y prawf yn gyntaf.
Os ydych yn byw yn Ne Cymru, rydym yn cynnig y cyfle i chi gael ymweliad Diogelwch Cartref AM DDIM yn eich cartref.
Ewch i’n map gorsaf i weld pa feysydd rydyn ni’n eu cynnwys. Os ydych chi’n byw mewn cod post SA, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Os ydych chi’n cyfeirio o Asiantaeth, cwblhewch Ffurflen Atgyfeirio yr Asiantaeth. I gwblhau’r ffurflen hon bydd angen y feddalwedd ganlynol arnoch sydd ar gael yn rhad ac am ddim, Adobe Acrobat Reader DC.
Llawrlwythwch y darllenydd Adobe pdf sydd ar gael yn rhad ac am ddim yma
Bydd diffoddwyr tân o’ch gorsaf dân leol neu ein Tîm Diogelwch Cartref yn cysylltu â chi. Os bydd angen ymweliad arnoch, bydd yn cymryd tua 30 munud a byddwn yn darparu ac yn gosod larymau tâna synwyryddion gwres yn rhad ac am ddim os gwelwn risg. Yn ogystal, mae larymau ar gyfer pobl fyddar ar gael.
Rhaid i ni edrych ar bob cais Diogelwch Cartref a dderbyniwn i wneud yn siŵr ein bod yn darparu’r gwasanaeth cywir; efallai na fydd angen i ni ymweld â chi. Mae’n bosib y cawn ddarparu’r arweiniad diweddaraf i chi o ran lleihau risgiau tân yn eich cartref a larymau mwg rhad ac AM DDIM os oes angen.