Os bydd eich nwyddau gwyn yn dechrau gwneud sŵn rhyfedd, peidiwch â’i anwybyddu – os ydych chi’n amau bod problem, dylech dynnu’r plwg bob amser a chysylltu â’r gwneuthurwr neu dechnegydd trwsio cymwys.
Mae hefyd yn bwysig i chi wirio’n rheolaidd a yw eich offer yn rhan o raglen adalw.
Peidiwch ag anghofio cofrestru eich offer gan y byddwch chi’n cael gwybod os bydd y gwneuthurwyr yn nodi unrhyw broblemau gyda’r cynnyrch rydych wedi’i brynu. Ewch i www.registermyappliance.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Cynghorion craff
Glanhewch hidlau a chasglwyr lint peiriannau golchi a sychwyr dillad yn rheolaidd
Peidiwch â gadael peiriannau golchi llestri, peiriannau golchi na sychwyr dillad yn rhedeg heb oruchwyliaeth dros nos neu pan fydd eich eiddo’n wag am gyfnodau estynedig. Darllenwch mwy o wybodaeth am ddiogelwch peiriannau sychu dillad
Dilynwch y rheol am roi un plwg yn unig mewn soced i beidio gorlwytho socedi trydan. Defnyddiwch Gyfrifiannell Drydanol ESF
Defnyddiwch gwefrydd pwrpasol ar gyfer ffonau symudol a dyfeisiau technoleg eraill a pheidiwch â phrynu nwyddau ffug rhatach. Lawrlwythwch ein taflen am diogelwch nwyddau gwyn i gael mwy o wybodaeth. Lawrlwythwch ein taflen Gwefrwch eich Ffôn Symudol yn Ddiogel a darllen mwy o Electrical Safety First ar prynnu gwefryddion
I gael rhagor o gyngor ac awgrymiadau am ddiogelu eich cartref rhag tanau trydanol a damweiniau ewch i’n gwefan ewch i’n tudalen diogelwch a lles
Cynghorion diogelwch trydanol wrth dreulio mwy o amser gartref
Mae’n debyg eich bod yn treulio ychydig mwy o amser gartref gyda’ch teulu ar hyn o bryd. Ac mae hyn yn golygu eich bod yn debygol o ddefnyddio mwy o eitemau trydanol wrth i chi weithio a difyrru’r plant. Darllenwch ein cynghorion i weld sut y gallwch chi aros yn ddiogel o gwmpas trydan wrth dreulio amser gyda’ch gilydd.
Gwefrwch eich dyfeisiadau trydanol ar wynebau caled, gwastad
Gwnewch yn siŵr nad yw eich teulu’n gwefru eu dyfeisiau a’u teclynnau ar welyau, soffas neu arwynebau meddal eraill. Gall y rhain orboethi’n gyflym, gan gynyddu’r risg o dân.
Tynnwch y plygiau gwefrau ar ôl i chi orffen eu defnyddio
Peidiwch â gadael i’ch dyfeisiau gwefru am fwy o amser sy’n angenrheidiol. Gall hyn niweidio’r batri neu achosi i’r ddyfais gorboethi ac achosi tân.
Peidiwch â gorlwytho socedi
Gallai cebl estyniad fod â sawl soced, ond nid yw’n golygu y dylid eu defnyddio Defnyddiwch cyfrifiannell ar-lein i weld beth sy’n ddiogel.
Byddwch yn ofalus o gwmpas ceblau
Peidiwch â cheisio trwsio unrhyw ddifrod eich hun (ni fydd tâp dwythell yn gwneud) gwnewch yn siwr eu bod nhw’n cael eu cadw’n daclus i osgoi’r risg o faglu.
Cadwch eich “desg” yn daclus
Mae’n debygol eich bod chi’n gweithio yn wagle llai na rydych chi wedi arfer gyda. Sicrhewch rydych chi yn cadw diodydd i ffwrdd o eich gliniadur a’ch ffon symudol – mae hylif a thrydan ddim yn cymysgu! Darllenwch mwy o Diogelwch Trydanol yn Gyntaf am Ddiogelwch Gweithio Gartref.
Byddwch yn ofalus os ydych chi’n defnyddio gwresogyddion cludadwy i gynhesu
Gwnewch yn siŵr fod deunyddiau fflamadwy yn cael eu cadw oddi wrthynt a pheidiwch â’u ymlaen pan nad ydych o gwmpa
Cadwch lygad barcud ar yr offer trydanol y mae’r plant yn eu defnyddio
Not just screen time; ensure they’re charging correctly and following safe use guidelines. Nid amser wrth y sgrin yn unig; gwnewch yn siwr eu bod nhw’n gwefru yn y ffordd gywir ac yn dilyn canllawiau defnyddio’n ddiogel.
Dilynwch gyngor diogelwch trydan wrth wneud gwaith cynnal a chadw
Now might seem like a good opportunity to undertake tasks you’ve been putting off – read these Gall nawr ymddangos fel cyfle da i ymgymryd â thasgau rydych chi wedi bod yn eu hosgoi – darllenwch yr awgrymiadau hyn Diogelwch yn yr Ardd a Cynnal a Chadw Trydannol i gael mwy o wybodaeth.
Peidiwch â gadael i’ch sylw grwydro yn y gegin
Pan fyddwch chi’n coginio, gall fod yn hawdd i aelodau’r teulu, galwadau ffôn a negeseuon e-bost, dynnu eich sylw — peidiwch â gadael i bethau barhau fyrlymu o hyd ar yr hob neu yn y tostiwr. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer ein hawgrymiadau Diogelwch Coginio.
Byddwch yn ofalus wrth siopa ar-lein
Os ydych chi’n gofalu ar ôl y ceiniogau ac yn chwilio am fargen drydanol ar-lein, gofalwch wrth bwy rydych chi’n prynu. Defnyddiwch y Teclyn gwirio i’ch helpu i ddysgu am beryglon ar-lein.
Cofrestrwch eich Cyfarpar
Os ydych gartref gydag ychydig o amser sbâr, beth am wneud yn siŵr bod yr offer trydanol yn eich cartref wedi’u cofrestru, fel y gall y gwneuthurwr gysylltu â chi os bydd problem. Ewch i electricalsafetyfirst.org.uk/registration i ddarganfod mwy.