Ymwybyddiaeth Llosgi
Mae 13eg o Hydref yn nodi Diwrnod Cenedlaethol Llosgiadau; Mae atal a chymorth cyntaf da yn allweddol i leihau nifer y llosgiadau a’r sgaldiadau sy’n digwydd yn y DU bob dydd.
Mae anaf llosgi yn para am oes. Gall llosgiadau neu sgaldiadau arwain at flynyddoedd o driniaethau poenus ac, yn yr achosion gwaethaf, gannoedd o lawdriniaethau i ryddhau’r feinwe greithiog. Yr hyn nad yw llawer o bobl yn ei wybod yw mai plant a’r henoed yw’r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae mwyafrif yr anafiadau’n digwydd o ganlyniad i ddamwain y gellid mor hawdd ei hatal.
Mae Ymddiriedolaeth CB wedi creu’r awgrymiadau defnyddiol hyn ar sut i gadw’n ddiogel os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod mewn perygl o llosg.
RHAID
Gosod larymau mwg ar bob llawr a’u profi’n gyson
Cadw diodydd poeth allan o gyrraedd babanod a phlant ifanc
Llunio ac ymarfer Cynlluniau Dianc Rhag Tân gyda’r teulu cyfan
Rhoi dŵr OER yn y bath neu’r sinc yn gyntaf, cyn ychwanegu dŵr poeth – profwch y tymheredd
Gosod falfiau cymysgu thermostatig ym mhob allfa dŵr poeth
Cadw sosbenni ar gefn y stôf NID yn y tu blaen – sicrhewch fod y dolenni’n wynebu cefn y stôf
Cadw tegellau, haearnau smwddio, sythwyr gwallt neu wifrau allan o gyrraedd
Cadw sgriniau tân diogel o flaen tanau agored, gwresogyddion a rheiddiaduron
Cadw matsis a thanwyr allan o gyrraedd
Storio cemegau, glanhawyr ac asidau allan o gyrraedd
PEIDIWCH
Yfed diodydd poeth wrth nyrsio/dal babi neu blentyn
Rhoi babi neu blentyn mewn bath neu sinc nes bod y dŵr wedi’i brofi
Cynhesu poteli bwydo babis yn y ficrodon
Gadael sythwyr gwallt heb oruchwyliaeth
Caniatáu i blant fynd yn agos at farbeciw neu gemegau gardd
Caniatáu i blant fynd yn agos at dân gwyllt
Gadael plant heb oruchwyliaeth yn y gegin, yr ystafell ymolchi neu yn ymyl tanau a gwresogyddion
Mae atal llosgiadau o ganlyniad i ddiodydd poeth yn hawdd o ddefnyddio rheolau PanedDibryder syml:
Cadwch ddiodydd poeth allan o gyrraedd plant ifanc
Peidiwch byth â chario diod boeth wrth gario babi
Peidiwch byth ag estyn diod boeth uwchben plant ifanc
Sut i gadw diodydd poeth o gyrraedd plant:
Rhowch ddiodydd poeth tuag at gefn wynebau gwaith ceginau
Peidiwch â rhoi diod boeth ar liain bwrdd neu lieiniau eraill sy’n hongian i lawr o fewn cyrraedd plant bach a’u tynnu
Gwnewch le diogel… ardal PanedDibryder i ddiodydd poeth… yn eich cartref lle gallwch chi ac aelodau’r teulu ac ymwelwyr gadw diodydd poeth o gyrraedd plant bach
Peidiwch yfed diodydd poeth pan fydd plant bach o gwmpas
Atgoffwch ymwelwyr â’ch cartref bob amser i ‘Gadw diodydd poeth allan o gyrraedd plant ifanc’
Am ragor o wybodaeth, ewch i – www.cbtrust.org.uk