Cynhwysiant
Rydym ni’n credu’n gryf mewn buddion cael gweithlu amrywiol a chynhwysol, ac rydym ni’n annog ceisiadau gan bob sector o’n cymunedau.
Wrth i gymunedau De Cymru newid a dod yn fwy amrywiol yn ddiwylliannol, mae’n hanfodol ein bod ni’n addasu’r ffordd rydym ni’n darparu gwasanaethau a sicrhau ein bod ni’n cynrychioli ac adlewyrchu’n llawn y cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu.
Ein gweithwyr yw ein hased pwysicaf. Mae ein holl weithwyr yn gwneud cyfraniad allweddol bob dydd ac yn chwarae rôl annatod wrth ddiogelu cymunedau De Cymru. Yn ogystal â chydnabod pwysigrwydd y swyddogaethau amrywiol ar draws ein sefydliad, rydym ni’n credu’n gryf mewn gwerth cael gweithlu amrywiol a chynhwysol.
Ein nod yw cynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth rydym ni’n ei wneud. Mae’r gwasanaeth yn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle, yn cymryd camau i atal gwahaniaethu anghyfreithlon, ac yn hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o grwpiau amrywiol. Rydym ni wedi gweithio tuag at Ddyletswyddau Cyffredinol a Phenodol i Gymru, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ran cyflawni gweithlu cynhwysol, wrth wneud y canlynol;
Un o’n deilliannau corfforaethol yw cael gweithlu sy’n amrwiol, sy’n cael ei werthfawrogi’n gyfartal, a bod gan bawb fynediad at gyfleoedd datblygu, yn ogystal â chyfleoedd proffesiynol. (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2020)