Prosiect Lula a'r Fflam yn bwriadau atal tanau gwyllt yn Ne Cymru

Yn 2024, ymunodd Petra Publishing â chwe ysgol gynradd leol yn Ne Cymru, Cwmclydach, Llwynypia, Maerdy, Parc, Penyrenglyn, a Phenrhys i greu’r prosiect ysgrifennu llyfrau addysgol o’r enw Lula a’r Fflam.

Ar ôl y llyfr, cynhyrchodd Community Storywork ffilm animeiddiedig, sef ‘llyfr llafar’, a rhaglen ddogfen yn amlygu datblygiad y prosiect.

Mae’r rhaglen ddogfen yn cynnwys cyfweliadau gyda disgyblion, rhieni, gofalwyr, a staff, gan roi cipolwg ar y broses greadigol y tu ôl i’r prosiect.

Hanfod y stori yw neges am gydweithio gyda Lula a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gan ganolbwyntio ar ymdrechion i atal tanau gwyllt ar draws De Cymru. Yn y prosiect hwn, mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo diogelwch tân.

Fel rhan o’n rhaglen addysg helaeth sy’n cael ei chynnal mewn ysgolion ledled De Cymru, mae tîm Lleihau Llosgi Bwriadol GTADC wedi creu cynllun gwers yn seiliedig ar Lula a’r Fflam, i gynnwys disgyblion mewn addysg diogelwch tân.

 

Gallwch weld yr animeiddiad, llyfr llafar, a rhaglen ddogfen isod.

Saesneg

Animeiddiad:

 

Llyfr Llafar:

 

Rhaglen Ddogfen:

 

Cymraeg

 

Animeiddiad:

 

Llyfr Llafar:

 

I gael gwybodaeth Bellach, mae croeso i chi gysylltu â lleihaullosgibwriadol@decymru-tan.gov.uk