Mae Prosiect Ffenics yn gyfle ardderchog i ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau, asiantaethau addysg amgen ac unedau atgyfeirio disgyblion atgyfeirio pobl ifanc i fynychu cwrs rhyngweithiol pum diwrnod, lle byddant yn dysgu mwy am y Gwasanaeth Tân ac Achub , pwy ydym ni, beth rydym ni’n ei wneud a sut rydym ni’n ymgysylltu â’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu.

Ein nod yw mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar bobl ifanc, o ddiffyg hunan-barch a hunanhyder i ymddygiad gwrthgymdeithasol a/neu broblemau sy’n gysylltiedig â chynnau tân. Dyma gyfle i blant a phobl ifanc ddysgu sgiliau newydd, rhyngweithio fel rhan o dîm a dod o hyd i ddoniau newydd gyda help y Gwasanaeth Tân.

Mae Prosiect Ffenics yn rhoi cyfle i’r rheiny sy’n mynychu gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys defnyddio offer ymladd tân gwirioneddol, peiriannau tân sydd wedi’u haddasu, dringo ysgolion a chyfrannu at senarios achub ffug.

Uchafbwynt yr wythnos yw mwstwr swyddogol, lle gall teulu, gwarcheidwaid, ffrindiau, athrawon a staff asiantaethau atgyfeirio ddod i ddathlu llwyddiant y bobl ifanc, cymryd ffotograffau cofiadwy a chreu atgofion gwerthfawr.

Darparwn nifer o ddulliau cyflenwi sy’n addas ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd a phobl ifanc hyd at 25 oed, mewn achosion lle mae asiantaeth atgyfeirio o’r farn y bydd y person ifanc yn elwa o’r profiad.

Lle bo hynny’n briodol, mae’r prosiect hefyd yn cynnig cymhwyster Agored i bawb sy’n cwblhau’r cwrs.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau neu os hoffech wirio pa ddyddiadau sydd ar gael, cysylltwch â ni trwy anfon neges e-bost at Ffenics@decymru-tan.gov.uk neu ffonio 01443 232297.

Ar gyfer holl ymholiadau Ymyrraeth Ieuenctid GTADC, llenwch Ffurflen Ymholiad Ymrwymiad Ieuenctid ac e-bostiwch i ieuenctid@decymru-tan.gov.uk