Pwy ydym ni
“Gwneud De Cymru’n Ddiogelach drwy leihau Risg” Ni yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’n gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd sy’n gyrru ac yn symbylu ein pobl i wneud De Cymru’n ddiogelach, drwy leihau risg. Ein nod yw amddiffyn a gwasanaethu ar draws y 10 Awdurdod Unedol o fewn ein hardal amrywiol, gan weithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr mewn gwasanaethau rheng flaen eraill.
Byddwn ni’n cyflawni ein Gweledigaeth wrth:
Mae ein datganiad cenhadaeth yn disgrifio diben cyffredinol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: beth rydym ni’n ei wneud, ar gyfer pwy rydym ni’n ei wneud, a sut a pham rydym ni’n ei wneud. Mae hefyd yn gosod ffiniau ein gweithgareddau presennol.
Mae ein GWERTHOEDD yn diffinio dros beth rydym ni’n sefyll – dyna ein rheolau craidd. Ar ôl cael eu diffinio, dylai’r gwerthoedd sydd o bwys i ni gael eu hadlewyrchu ym mhopeth rydym ni’n ei wneud
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru set o werthoedd sy’n disgrifio sut byddwn ni’n gweithio fel sefydliad. Pa bynnag bryd y dewch i gysylltiad â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fel aelod o’r cyhoedd, partner, busnes neu aelod staff, dylai’r gwerthoedd hyn fod yn amlwg bob amser
Gofalgar
Byddwn ni’n ofalgar ac yn dosturiol, ac yn arddangos pryder ac empathi i bobl eraill
Ymroddedig
Rydym ni’n ymroddedig i’r cymunedau lle’r ydym ni’n byw, gweithio ac ymweld. Rydym ni’n ymroddgar i achub bywydau a gweithio mewn partneriaethau fel rhan annatod o’n cymunedau
Disgybledig
Rydym ni’n glir ynghylch ein rolau ac rydym ni’n gweithredu o fewn lefelau cytûn o awdurdod, mewn amgylchedd disgybledig. Ystyriwn mai ffurf uchaf disgyblaeth yw hunanddisgyblaeth
Deinamig
Byddwn ni’n manteisio ar gyfle i newid neu gael ein newid, ac yn gallu gwneud hynny. Rydym ni’n cymryd rhan mewn gweithgarwch egnïol, gydag egni a brwdfrydedd, gan fod yn effeithiol iawn
Proffesiynol
Byddwn ni’n arddangos proffesiynoldeb ym mhopeth y gwnawn. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n cyflawni ein dyletswyddau mewn modd cymwys a dibynadwy, yn arddangos arbenigedd ym mhopeth y gwnawn, a sicrhau ein bod ni’n arddangos ymrwymiad i’r safonau uchel a ddisgwylir gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru bob amser
Cydnerth
Byddwn ni’n rhagweld risg, yn cyfyngu ar effaith, ac yn dod yn ôl ati’n gyflym trwy hyblygrwydd, esblygiad a thwf, yn wyneb newid cythryblus. Byddwn ni’n gwrthsefyll ac adfer yn gyflym o amgylchiadau anodd
Parchus
Byddwn ni’n parchu ein gilydd a’r cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu. Mae hyn yn golygu trin pobl yn deg, derbyn gwahaniaethau, a chydnabod cyfraniad ein cydweithwyr a’n cymunedau
Dibynadwy
Gallwch ddibynnu arnom ni i fod yn onest ac yn eirwir
Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu ideoleg graidd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru