Siaradwyr Cymraeg o fewn y Gwasanaeth
Helo, Tony ydw i ac rwyf wedi bod gyda GTADC am 15 mlynedd. Dechreuais fy Ngyrfa yn y Gwasanaeth Tân yn 2002 fel Ymladdwr Tân yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd a threuliais nifer o flynyddoedd yn yr orsaf fel Ymladdwr Tân ac yna fel Rheolwr Criw. Yn fwyaf diweddar, datblygais i gymryd rôl o fewn Pencadlys GTADC fel Rheolwr Rhaglen yr Ymladdwyr Tân Ifanc. Mae hon yn yrfa hynod wobrwyol sy’n cynnwys goruchwylio gweithrediad effeithiol rhaglen sy’n chwilio i gefnogi pobl ifanc wrth iddynt ddysgu sgiliau newydd o fewn lleoliad Gwasanaeth Tân.Astudiais Gymraeg yn yr ysgol ac roeddwn yn rhugl ers yn 5 oed. Yn ystod fy 15 mlynedd yn y Gwasanaeth, mae fy ngallu i siarad Cymraeg yn golygu y gallaf gefnogi’r sefydliad a’n cymunedau mewn amryw o ffyrdd. Dyma ychydig o esiamplau:
Er gwaethaf eich dewisiadau Gyrfa cychwynnol, gall sgiliau Iaith Gymraeg fod yn hynod fuddiol o fewn eich Gyrfa ac un cyflogwr fydd wir yn eich cynorthwyo i feithrin y sgiliau hyn yw GTADC. Rwyf wedi mwynhau bob munud y ces ddefnyddio fy sgiliau Cymraeg o fewn y gweithle sy’n golygu y gwelais rai canlyniadau gwych yn fewnol a hefyd o fewn ein cymunedau, sydd bob tro’n gwneud i mi fod yn hapus ac yn falch ein bod yn gwneud gwahaniaeth.
Helo, fy enw i yw Deborah a dwi’n gweithio fel Swyddog Adnoddau Dynol o fewn y Tîm Recriwtio ac Asesu yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Dechreuais ddysgu Cymraeg rhan amser yn 2004, drwy gymysgedd o ddosbarthiadau GTADC a Choleg a hefyd ar gyrsiau penwythnos. Ro’n i wastad eisiau siarad fy Iaith Frodorol a fy nod oedd gallu cyfathrebu’n ddwyieithog yn y gweithle. Gweithiais fy ffordd ar hyd cyfres o gymwysterau ac enillais fy lefel A yn Gymraeg yn 2010.
Ers hynny, defnyddiais fy Nghymraeg yn fy rôl i’r Tîm Recriwtio ac Asesu. Yn ddyddiol, rwy’n cyfathrebu â chydweithwyr, ymgeiswyr a sefydliadau allanol mewn person, dros y ffôn neu ar ffurf e-bost. Rwy’n defnyddio’r Gymraeg wrth olygu a chreu dogfennau, wrth gynorthwyo cydweithwyr ag ymholiadau sy’n ymwneud â’r Gymraeg a hefyd wrth gynrychioli GTADC mewn digwyddiadau allanol.
Mae’r Gymraeg yn ddiddordeb parhaol i mi. Rwy’n gobeithio parhau i ddefnyddio fy Nghymraeg a mynychu cyrsiau i adnewyddu fy ngwybodaeth. Does dim amheuaeth – mae dysgu Cymraeg yn lawer o hwyl!!