Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (“GTADC”) wedi ymrwymo i weithredu mewn modd agored a thryloyw. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth yn unol â chynllun cyhoeddi enghreifftiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (“SCG”), yn unol â’n rhwymedigaethau yn unol ag Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Cynllun Cyhoeddi GTADC

Mae cynllun cyhoeddi enghreifftiol yr SCG yn cynnwys y dosbarthiadau gwybodaeth a ganlyn, ac rydym wedi darparu dolenni i’r wybodaeth yr ydym yn ei hystyried yn berthnasol i’r dosbarthiadau o wybodaeth y cyfeirir atynt.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud.

Faint rydyn ni’n ei wario a sut rydyn ni’n ei wario.

Beth yw ein blaenoriaethau a pha mor dda yr ydym yn cyflawni.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau.

Ein polisïau a gweithdrefnau.

Rhestrau a Chofrestr.

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig.

Mae GTADC yn cyhoeddi maint sylweddol o wybodaeth am ei berfformiad a’i gyllid ac ati ar y wefan hon, fel rhan o’i gydymffurfiaeth â Chynllun Cyhoeddi Enghreifftiol SCG. Gallwch weld ein hofferyn chwilio ar frig pob tudalen a gallai fod yn ddefnyddiol i chi. Fodd bynnag, os nad yw’r wybodaeth yr ydych yn ei cheisio wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan ar hyn o bryd a’ch bod yn dymuno gwneud cais am wybodaeth, gweler ein tudalen Rhyddid Gwybodaeth. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“Deddf”) yn rhoi hawl mynediad cyffredinol i wybodaeth a gedwir gan Awdurdodau Cyhoeddus, gan gynnwys GTADC. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (“Rheoliadau”) yn rhoi hawl mynediad cyffredinol i’r cyhoedd i wybodaeth amgylcheddol a gedwir gan Awdurdodau Cyhoeddus. Mae’r hawliau mynediad cyffredinol hyn yn amodol ar nifer o gyfyngiadau gweithdrefnol a sylweddol, er enghraifft pan fydd gwybodaeth eisoes ar gael naill ai drwy law’r wefan hon, neu mewn rhyw ffordd arall. Mae’r Ddeddf a’r Rheoliadau yn ymdrin ag unrhyw wybodaeth gofnodedig a gedwir gan Awdurdod Cyhoeddus. Mae gwybodaeth a gofnodwyd yn cynnwys dogfennau printiedig, ffeiliau cyfrifiadurol, llythyrau, e-byst, ffotograffau a/neu recordiadau fideo.

Nid yw’r Ddeddf a’r Rheoliadau yn rhoi mynediad i bobl at eu data personol eu hunain. Mae gan unigolion hawl mynediad i ddata personol amdanynt o dan y deddfau a’r rheoliadau diogelu data fel sy’n berthnasol yn y Deyrnas Unedig – gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.

Mae gan GTADC hawl i godi tâl am wasanaethau penodol trwy Adran 18A Deddf Gwasanaethau Tân 2004. Mae GTADC yn codi tâl am fynediad i wybodaeth fwy cynhwysfawr a manwl am ddigwyddiadau yr aethpwyd iddynt, yn unol â’r arfer gyffredin ymhlith y gwasanaethau tân ac achub.

Gan fod gwybodaeth am ddigwyddiad yn weddol hygyrch trwy ddulliau eraill, er mai dim ond am dâl y mae ar gael, bydd ceisiadau am Adroddiadau Ymchwiliadau Digwyddiad neu Dân o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cael eu gwrthod o dan Adran 21 (h.y. gwybodaeth sy’n hygyrch i ymgeisydd trwy ddulliau eraill), a chan fod yr eithriad hwn yn absoliwt nid yw’n destun prawf budd y cyhoedd.

Mae’r dull hwn o godi tâl gan y gwasanaethau tân ac achub wedi’i adolygu a’i gymeradwyo gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y dangosir yn Hysbysiad o Benderfyniad FS50859031.

Mae data personol mewn Adroddiadau Ymchwiliadau Digwyddiad a Than yn aml yn gyfyngedig ac fel arfer mae e am unrhyw ddioddefwyr a allai fod wedi cael eu hanafu mewn digwyddiad. Fel arfer, dim ond i breswylydd eiddo, gyrrwr cerbyd neu rywun sy’n gweithredu busnes mewn eiddo ar adeg digwyddiad y gallwn ddatgelu gwybodaeth. Fodd bynnag, deallwn mai’r landlord/asiant gosod tai neu yswirwyr yn aml fydd yn gofyn am yr adroddiad – yn yr achosion hynny, gallwn ryddhau’r adroddiad, ar yr amod bod gennym ganiatâd yr unigolion hynny. Os bydd sawl person yn gysylltiedig â digwyddiad, mae angen i ni gael caniatâd gan bob unigolyn i ryddhau fersiwn heb ei olygu, pe bai’n cynnwys eu data personol – neu sail gyfreithiol arall i ddatgelu eu data personol. Mae hyn yn hanfodol, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data a diogelu rhag unrhyw ymyrraeth ddiangen i breifatrwydd pobl.

Yn unol â deddfwriaeth diogelu data dim ond hawl i gael copi o’u data personol eu hunain sydd gan unigolion. Nid yw’n rhoi’r hawl iddynt gael copi o ddogfennau gwreiddiol, na gwybodaeth nad yw’n ymwneud â nhw fel unigolyn a nodwyd.

Os ydych chi am wneud cais am adroddiad ymchwiliad i ddigwyddiad neu dân, gweler ein tudalen Adroddiadau Ymchwiliadau i Ddigwyddiadau ac i Dân am ragor o wybodaeth.

 

Dyddiad Diweddaru Diwethaf: 15 Mai 2024