Adolygiad Diwylliant
Beth yw’r Adolygiad Diwylliant? Yn dilyn Adolygiad Diwylliant Brigâd Dân Llundain a darlledu adroddiad ITV am ganlyniadau dau achos disgyblu a ddigwyddodd yn y gorffennol hanesyddol yr ymchwiliwyd iddynt yn flaenorol gan y Gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2022, comisiynodd Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM Adolygiad Annibynnol o ddiwylliant y Gwasanaeth.
Ym mis Chwefror 2023, penododd Panel Penodi Annibynnol Fenella Morris, Cwnsler y Brenin (CB) yn Gadeirydd Annibynnol, i arwain yr adolygiad.
Dechreuodd yr Adolygiad Diwylliant ym mis Ebrill 2023. Mae’r arolwg yn cynnwys cyfnod o ymchwil ddesg i bolisïau a gweithdrefnau disgyblu cyfredol, ac achosion a chwynion disgyblu hanesyddol; sesiynau agored a phreifat gyda staff cyfredol, staff blaenorol a rhanddeiliaid ehangach ar eu profiad o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru; yn ogystal ag arolwg a grwpiau ffocws. Bydd yr holl weithgareddau hyn yn cyfrannu at adroddiad Adolygiad Diwylliant, a gyhoeddir gan Fenella Morris CB a’r tîm cyn diwedd 2023.
Mae Fenella wedi cynnal ymchwiliadau sensitif, gan gynnwys yn fwyaf diweddar, ymchwiliad i Ymgyrch Blacowt UKAD. Bu’n gwnsler i’r Adolygiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol ac roedd hi’n rhoi cyfarwyddyd yn Ymchwiliad Covid y Coleg Nyrsio Brenhinol. Dyfarnwyd y wobr ‘Sidanwr y Flwyddyn am Ddisgyblaeth Broffesiynol’ i Fenella yng Ngwobrau Bar Siambrau’r DU 2021, ac roedd hi’n Gyfreithiwr yr Wythnos y Times, ym mis Gorffennaf 2020.
Mae Charlene yn Fargyfreithwraig gydag arbenigedd mewn Cyfraith Cyflogaeth ac mae ganddi brofiad helaeth ar bob agwedd ar gyfraith cyflogaeth gytundebol a statudol, gan gynnwys yn aml achosion o chwythu’r chwiban a/neu wahaniaethu. Mae hi hefyd wedi gweithio ar ymchwiliadau sensitif mewn perthynas â honiadau penodol o wahaniaethu, yn ogystal â diwylliant gweithle cyffredinol. Bu Charlene yn Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Siambrau am bum mlynedd, gan hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a mentrau lles.
Mae Gethin yn Fargyfreithiwr gyda chwmni amlddisgyblaeth helaeth, gan gynnwys cyfraith gyhoeddus a rheoleiddio. Mae Gethin yn aelod o Banel Cwnsleriaid C y Twrnai Cyffredinol, a Phanel B Cwnsleriaid Iau Llywodraeth Cymru. Yn y gorffennol fe’i cyfarwyddwyd gan gyfranogwr craidd yn yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig, yn ogystal â chynghori Adolygiad ‘Windrush Lessons Learned’. Cyn iddo ddod yn Fargyfreithiwr, gweithiodd Gethin i Gomisiwn y Gyfraith, ar brosiect a oedd yn cynnig system godeiddio newydd ar gyfer y gyfraith sy’n gymwys i Gymru.
Mae’r Tîm Adolygiad Diwylliant yn gwahodd aelodau staff cyfredol a blaenorol (rhai sydd wedi gadael GTADC o fewn y saith mlynedd diwethaf), asiantaethau partner a chydweithwyr Golau Glas, ynghyd ag aelodau o’r cyhoedd a hoffai rannu eu profiadau gyda’r Tîm i gysylltu â’r tîm yn uniongyrchol, trwy law’r e-bost swfrsreview@gmail.com.
Rydym yn cynnal camau cynnar yr Adolygiad a gall yr amserlen arfaethedig gyfredol, a nodir
isod, newid. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu maes o law.
Mae’r amserlen a ragwelir ar gyfer yr Adolygiad fel a ganlyn:
Mae’r Cylch Gorchwyl Cyfan ar gael yma.
Mae’r Cwestiynau Cyffredin ar gael yma.
Diweddariad Dydd Llun 17 Gorffennaf 2023.
I gael gwybodaeth am sut y bydd yr Adolygiad Diwylliant yn diogelu ac yn prosesu eich gwybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd yr Adolygiad yma. I gael gwybodaeth ynghylch sut a pham y bydd GTADC yn rhannu ac yn datgelu data personol y mae’n ei gadw i’r Adolygiad, gweler Hysbysiad Preifatrwydd GTADC ynghylch rhannu data personol rhwng GTADC a’r Adolygiad yma.