25 tunnell o sbwriel wedi’i ddympio yn Shirenewton
Yr wythnos diwethaf (y 3ydd o Fehefin 2020) cafodd nifer o griwiau eu galw i dân ar Ffordd Gwynllŵg yn Trowbridge. Ar ôl iddynt gyrraedd roedd y diffoddwyr tân yn gorfod mynd i’r afael â charafán segur oedd ar dân, yn ogystal â’r tân oedd wedi ymledu wedyn i goed cyfagos.
Amheuir bod y tân wedi’i achosi’n fwriadol ac ers hynny mae Tîm Troseddau Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn monitro’r safle lle mae, ar hyn o bryd, tua 25 tunnell o sbwriel wedi cael ei ddympio, gan gynnwys pedair carafan.
Mae tipio anghyfreithlon o fewn yr ardal wedi cynyddu’n fawr dros y pythefnos diwethaf ac mae’r tîm wedi bod yn cysylltu â’r Awdurdod Lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i lanhau’r safle ac osgoi rhagor o danau posibl.
Dywedodd Dean Loader, Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: ‘Gall un neu ddau o fagiau o sbwriel neu gelfi sy’n cael eu dympio ddenu mwy. Mae hyn yn gost i ni i gyd ac yn draul ar adnoddau gwasanaethau brys. Mae’n difrodi’r amgylchedd, gan achosi colli bywyd gwyllt a pheryglu eiddo a bywydau yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol. Hoffwn atgoffa preswylwyr bod ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu’n iawn. Rydym yn argymell y dylid defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig bob amser a dylid gofyn am weld hawlen, trwydded neu eithriad.”
Gall yr hyn a fwriadwyd i fod yn dân bach, neu ychydig o hwyl yn unig, ymledu’n gyflym gan fynd allan o reolaeth, ac ar yr achlysur hwn difrodwyd coedwigaeth.
Y llynedd, cafwyd bron i 4000 o danau sbwriel ledled Cymru, ac mae’r prif achosion yn cynnwys bagiau gwastraff o gartrefi, celfi a dipiwyd yn anghyfreithlon ac ysbwriel, lle mae tanau bwriadol yn cael eu gosod wedyn.
Mae tanau sbwriel yn beryglus iawn a gallant arwain at straen ar adnoddau, ar adeg pan allai fod argyfyngau eraill lle mae bywydau mewn perygl.
Nid oes unrhyw esgus dros dipio anghyfreithlon. Os ydych chi’n dewis dympio sbwriel, gallech chi fod yn rhoi tanwydd ar y tân ac yn dewis cyfrannu at drychineb. Dylech gymryd cyfrifoldeb a sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei waredu’n gywir.
Dylech bob amser ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig. Cofiwch, peidiwch â #RhoiTanwyddaryTân