Achub hwyaid bach ym Mhontypridd
Gweithiodd Diffoddwyr Tân gyda’r RSPCA i achub haid o hwyaid bach ar ôl iddyn nhw ddisgyn mewn i ddraen ym Mhontypridd.
Am oddeutu 2:14yp ar ddydd Iau 5 Mai 2022, mynychodd Diffoddwyr Tân Ar Alwad o Orsaf Dân ac Achub Pontypridd i ddigwyddiad achub anifeiliaid ar Burns Way ym Mhontypridd.
Ar ôl cyrraedd, wnaeth criwiau cyfarfod ag arolygydd o’r RSPCA. Daethant o hyd i bum hwyaden fach – y credir eu bod tuag wythnos oed – yn gaeth yn y draen storm ar ôl iddynt ddilyn eu mam ar draws y ffordd. Galwodd modurwr y RSPCA am gymorth ar ôl gweld yr hwyaid bach yn cwympo ac yn diflannu o’r golwg.
Bu ein criwiau’n gweithio’n effeithiol wrth ymyl y RSPCA i strategaethu ac achub y pum hwyaden fach yn llwyddiannus. Caeodd Diffoddwyr Tân y ffordd yn rhannol er mwyn iddynt allu cynnal yr ymgyrch achub yn ddiogel.
Diolch byth, cafodd pob un o’r pum hwyaden eu hachub a’u hudo gan synau hwyaid yr oedd y swyddogion yn eu chwarae iddynt ar eu ffonau symudol.
Dywedodd Arolygydd y RSPCA, Sophie Daniels:
“Mae’r mathau hyn o achub yn cymryd amser ac amynedd oherwydd gall yr hwyaid bach ddiflannu ar hyd pibellau ochr sy’n cysylltu – a dyna beth wnaethon nhw wneud. Felly, dyma ni’n tynnu ein ffonau symudol allan a dechrau chwarae synau hwyaid i geisio eu hudo yn ôl i’r brif siambr ble mae mynediad.
Buom yno am ychydig o oriau, ond roedd y diffoddwyr tân yn gwbl benderfynol o achub pob hwyaden. Roedd y draen yn rhy drwm i fi godi ar ben fy hun, ac mae’n ffordd wledig eithaf cyflym, felly roedd eu cefnogaeth yn wych.
Roedd yn ymdrech tîm go iawn ac roedd pawb wrth eu bodd pan ddaethom â’r hwyaid bach i’r wyneb o’r diwedd. Mae’n atgof arall o’r hyn y gallwn ei wneud gyda’n gilydd ar gyfer lles anifeiliaid. Fel bob amser, rydym yn hynod o ddiolchgar i’r Gwasanaeth Tân am y tosturi a’r gofal a ddangoswyd gan eu swyddogion pan fydd angen i ni alw am gymorth.”
Oherwydd ei bod yn annhebygol fod y fam hwyaden yn aros yn yr un lle, bydd yr hwyaid bach yn aros yng ngofal y RSPCA cyn cael eu trosglwyddo i elusen bywyd gwyllt lleol lle byddant yn derbyn gofal cyn eu bod yn ddigon hen i gael eu hail-ryddhau.
Os gwelwch anifail mewn trafferth, peidiwch â cheisio’r achub eich hun. Yn lle, cysylltwch â’ch canolfan RSPCA leol. Gall eu harbenigwyr ymroddedig ddarparu’r cyngor gorau a byddant yn cysylltu â ni’n uniongyrchol os oes angen ein cefnogaeth. Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â’n partneriaid i helpu diogelu bywyd gwyllt a chadw De Cymru yn ddiogel.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?
Rydym yn recriwtio mewn nifer o Orsafoedd Tân ac Achub ar draws De Cymru – gan gynnwys Pontypridd! Dysgwch fwy am y rôl trwy ymweld â’n Tudalen Ymladdwyr Tân Ar Alwad.
Gallwch hefyd ddod draw i Noson Ymarfer mewn gorsaf a siarad â chriwiau am y rôl a’r broses recriwtio.