Adolygiad o Effeithiolrwydd Gweithredol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan y Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru

Adolygiad o Effeithiolrwydd Gweithredol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan y Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru

Yn ddiweddar comisiynwyd arolygiad gan Dan Stephens QFSM, Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru, (CFRAI), ar gais y Comisiynwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i asesu effeithiolrwydd gweithredol y Gwasanaeth wrth ymateb i achosion o danau mewn cartrefi domestig.

Cynhaliwyd yr arolygiad ym mis Gorffennaf ac Awst 2024, a dadansoddwyd cyfanswm o 252 o ddigwyddiadau rhwng y 1af o Ebrill 2021 a 31ain o Fawrth 2023 yn fanwl ar ffurf ymweliadau a gwaith maes i adolygu gweithdrefnau gweithredol, offer anadlu, a thactegau gorchymyn digwyddiadau’r Gwasanaeth.

Yn yr un modd ag arolygiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) a gomisiynwyd yn ddiweddar, teimlir y bydd yr arolygiad ychwanegol hwn gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub yn ategu’r Adolygiad Thematig, ac Adolygiad Morris a gyflawnwyd eisoes.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlygu pryderon bod tactegau gweithredol a ddefnyddir gan y Gwasanaeth wedi gosod Ymladdwyr Tân mewn perygl diangen a/neu wedi arwain at ddifrod y gellir ei osgoi i eiddo.

Er y gall canfyddiadau’r adroddiad ymddangos yn bryderus, dymuna’r Gwasanaeth dawelu meddyliau ac ailadrodd i aelodau’r cyhoedd bod y feirniadaeth wedi’i chyfeirio at dactegau a gweithdrefnau a bennir gan ganllawiau gweithredol y cytunwyd arnynt ar lefel Cyngor Cenedlaethol y penaethiaid Tân (CCPT), yn hytrach na Swyddogion a Diffoddwyr Tân GTADC.

Mae’r Comisiynwyr yn falch bod ymateb Llywodraeth Cymru yn egluro nad oes unrhyw feirniadaeth yn adroddiad mewn perthynas â Diffoddwyr Tân rheng flaen GTADC a bod y mater yn ymwneud â hyfforddiant, offer a thactegau ar lefel genedlaethol.

Er bod y Comisiynwyr yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi canfyddiadau’r adroddiad a’n bod wedi ymrwymo i weithredu’r rhan fwyaf o’r argymhellion – a ddylai ganiatáu i GTADC fod ar flaen y gad o ran arwain y ffordd ar gyfer diffodd tanau gweithredol – rydym hefyd wedi gwneud yn glir bod rhai o’r mae argymhellion, gan gynnwys newidiadau i’r system sifft, yn feysydd y mae angen dadansoddi ac asesu risg llawer mwy manwl arnynt, a byddai unrhyw newidiadau uniongyrchol yn gynamserol ac yn rhagdybiol.

Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau, ac mae Swyddog penodedig wedi’i nodi i weithio’n gyfan gwbl ar adolygu a gweithredu’r argymhellion.

Dymuna’r Comisiynwyr bwysleisio bod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Prif Gynghorydd ac Arolygydd, i sicrhau fel Gwasanaeth bod ein criwiau’n parhau i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cymunedau pan fydd angen, ac i sicrhau staff o ran ein hymddiriedaeth barhaus ynddynt.