Agoriad swyddogol adeilad newydd ChAT Cymru
Heddiw (19 Ebrill 2023), agorodd Gorsaf Tân yr Eglwys Newydd ei hadeilad Chwilio ac Achub Trefol (ChAT) Cymru newydd, sy’n cynrychioli’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.
Mae’r cyfleuster newydd hwn wedi’i greu gyda chymorth a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a bydd yn sicrhau’r lefel uchaf o hyfforddiant a galluoedd gweithredol personél ledled Cymru.
Mae wedi’i ddylunio gyda chynaliadwyedd mewn golwg, a bydd yn darparu adeilad modern, amgylcheddol ystyriol a gweithredol y tu ôl i Orsaf Dân Eglwys Newydd.
Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru:
“Mae gallu ymateb i drychinebau mawr o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cyfleuster Chwilio ac Achub Trefol newydd hwn yng Ngorsaf Dân yr Eglwys Newydd yn helpu i sicrhau bod gennym yr adnoddau gorau posibl yn eu lle gyda chriwiau hyfforddedig iawn yn barod i ymateb i gadw cymunedau’n ddiogel.
“Rwy’n falch ein bod wedi gallu darparu £1.3 miliwn tuag at gost y gwaith adnewyddu fel rhan o’n cefnogaeth barhaus i wydnwch cenedlaethol. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i bawb a fydd yn defnyddio’r cyfleusterau hyn.”
Dywedodd Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Matt Jones:
“Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am ariannu ChAT Cymru. Heb y cyllid a’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai’r adeilad hwn yma, ac ni fyddem mor barod ar gyfer digwyddiadau trefol yn y dyfodol ag yr ydym yn awr.
“Hoffwn hefyd ddiolch i bersonél Gorsaf yr Eglwys Newydd a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y broses ddatblygu.
“Mae’r adeilad modern a chynaliadwy hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad a’n hymroddiad i ddarparu’r gwasanaeth gorau y gallwn yng Nghymru.”
I nodi’r agoriad, cyflwynodd ac arddangosodd arbenigwyr amrywiaeth o asedau a galluoedd ChAT Cymru, gan gynnwys offer ac adnoddau arbenigol, adeilad newydd a’i nodweddion, hyfforddiant gyda thîm arwain Cenedlaethol Gydnerth Cymru ac arddangosiad gan Cooper, ci ChAT.