Ailgylchu Cit Tân a ddigomisiynwyd i wneud dillad cynaliadwy
Mae Person Graddedig BA (ANRH) Dylunio Ffassiwn o Brifysgol De Cymru (PDC), Jessica Evans, wedi creu casgliad o ddillad cynaliadwy gan ddefnyddio citiau tân a ddigomisiynwyd ac a roddwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) fel rhan o’i phrosiect blwyddyn olaf.
Ysbrydolwyd y casgliad cyfoes gan y flwyddyn a dreuliodd Jessica dramor yn Sydney, Awstralia, fel rhan o’i chwrs lle gwelodd dros ei hunan y dinistr a gafodd Tanau Tir Prysg 2020 ar y wlad.
Cysylltodd Jessica â’r Gwasanaeth ac roeddem yn fwy na pharod i gymryd rhan! Rhoddwyd chwe siaced a throwsus i gyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar gyfer prosiect Jessica. Trwy uwchgylchu’r hen gitiau tân, llwyddodd Jessica i greu sawl ddilledyn cynaliadwy ar gyfer ei phrosiect.
Ar ôl derbyn y cit tân, tynnodd Jessica y deunyddiau oddi ar ei gilydd a defnyddio pob haen ar gyfer elfen wahanol o’i gwaith. Uwchgylchodd ffabrigau i greu siacedi, ffrogiau, trowsus, siwmperi a hyd yn oed hetiau i amddiffyn y gwisgwr mewn tywydd eithafol.
Dywedodd Nigel Williams, Rheolwr Ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
“Mae cynaliadwyedd yn flaenoriaeth i ni fel Gwasanaeth ac rydym wedi addo lleihau ein heffaith amgylcheddol a’n hôl troed carbon o 25% o fewn tair blynedd yn unig. Mae gweld sut mae Jessica wedi uwchgylchu a thrawsnewid ein hen wisgoedd yn gasgliad ffasiwn i godi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd yn ysbrydoledig. Mae cysylltiadau Jessica ag Awstralia a’i dealltwriaeth o effaith tanau gwyllt ar ein cymunedau yn cael eu hadlewyrchu’n wych yn ei dyluniadau. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn sicrhau ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer y dyfodol. ”
Dywedodd Kara Bennett, Swyddog Cynaliadwyedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
“Mae cadw adnoddau naturiol a gwarchod ein hamgylchedd yn bwysig dros ben i GTADC ac mae’r rhain wrth wraidd ein ffordd o weithio i raddau helaeth. Mae gwella hirhoedledd ein dillad amddiffynnol poblogaidd wedi bod yn her ers tro, ac er ein bod yn dilyn cyfleoedd i ymestyn oes ein cit trwy bartneriaethau rhoi, nid yw pob cit yn addas at y diben. Mae casgliad arloesol ac ysbrydoledig Jessica yn rhoi gobaith i ni y bydd ein holl gitiau ôl-wasanaeth yn gallu cyfrannu at economi gylchol cyn bo hir, gan ddarparu gwerth ymhell ar ôl i’w dyletswyddau amddiffynno ddod i ben. Llongyfarchiadau enfawr i Jessica ar ei dyluniadau hardd, sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol cynaliadwy a ffasiynol. ”
Arddangoswyd casgliad Jessica yn yr Wythnos Ffasiwn i Raddedigion, sef arddangosfa ryngwladol o waith graddedigion Ffasiwn o dros 90 o brifysgolion a cholegau.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i ni sicrhau ein bod wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon a’r effaith a gawn ar yr amgylchedd ym mhopeth a wnawn. Rydym yn gweithio’n barhaus i gyflawni’r amcanion a’r camau a nodwyd yn ein Cynllun Lleihau Carbon.