Allech chi fod yn “Fwy Na Thân”? Rydym yn Recriwtio!
Yn y Flwyddyn Newydd eleni, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Dyletswydd Gyflawn.
Ai eich uchelgais chi yw dweud “Rwy’n Ddiffoddwr Tân”? Allwch chi fod yn fwy na’r wisg, yn fwy na’r bathodyn?
I fod yn Ddiffoddwr Tân mae angen bod gyda chi sgiliau cyfathrebu gwych, gallu gweithio’n galed ac ymroddiad, datrys problemau… ond yn bennaf oll mae angen i chi fod yn rhywun sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Os yw hynny’n swnio fel chi, ymunwch â ni a byddwch yn ‘Fwy Na Thân’.
Mae’r rôl yn gyffrous, yn heriol, yn amrywiol ac yn werth chweil, ac mae pob dydd yn wahanol. Gellir gwneud cais o’r 5ed o Ionawr 2022 ac yn cau ar y 19eg o Ionawr 2022 gan ddefnyddio ein system e-recriwtio Core HR.
Mae De Cymru wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae rôl Ddiffoddwr Tân wedi addasu i adlewyrchu hyn, ac i fodloni gofynion y gymuned leol ill dau. Mae’r Diffoddwr Tân cyfoes yn dal i gyflawni’r dyletswyddau traddodiadol yn ymateb i danau ac achub e.e. gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, llifogydd a thrychinebau naturiol eraill. Fodd bynnag, mae’r gwaith Diffoddwr Tân heddiw yn llawer mwy na rôl ymateb, ac mae hefyd yn darparu addysg a chyngor a chymorth atal.
Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ein nod yw creu gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu ac yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Credwn yn gryf yn y manteision o gael gweithlu amrywiol a chynhwysol ac rydym yn ymdrechu i sicrhau ceisiadau gan bob sector o’n cymunedau. Mae ein gwerthoedd craidd yn seiliedig ar wneud y peth iawn, gwneud gwahaniaeth, gweithredu gyda thosturi ac rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i fod yn gyflogwr cynhwysol. Cydnabyddwn fod dod yn weithlu amrywiol a chynhwysol yn daith barhaus, ac rydym yn ymdrechu o hyd i gynyddu ymdrechion gweithredu cadarnhaol
Yn unol â’n proses, bydd angen i chi ddangos eich bod chi’n cefnogi ein Gwerthoedd Craidd a bod yn barod i ymrwymo i’r lefel o hyfforddiant a ffitrwydd angenrheidiol i fodloni gofynion heriol y rôl bwysig hon.
Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â’n Tîm penodedig ar gyfer Recriwtio Diffoddwyr Tân Dyletswydd Gyflawn drwy law e-bost:sddg@decymru-tan.gov.uk neu darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin. Cewch weld manylion pellach ar ein gwefan yn nes at yr amser.