Angylion Tân yr Antarctig i gerdded i Begwn y De
Bydd dwy fenyw sy’n ddiffoddwr tân yn sgïo i Begwn y De, heb gymorth, i ysbrydoli menywod a merched i gyflawni eu huchelgeisiau.
Diffoddwr Tân Georgina Gilbert (Gorsaf Penarth) a Diffoddwr Tân Ar Alwad Rebecca Openshaw-Rowe, Gorsaf Mynydd Cynffig a Rheoli Tân ar y Cyd, (GTACGC), yn cychwyn ar alldaith ddewr ym mis Tachwedd.
Gan adael Cymru am gyfandir oeraf y byd, bydd y ddau yn wynebu tymereddau is na minws, gwyntoedd blinedig, a chaledi corfforol ac emosiynol wrth iddynt geisio sgïo cyfanswm o 1,130 cilomedr o arfordir Antarctica i Begwn y De.
Hwn fydd y tro cyntaf i neb yn y byd lwyddo i gerdded y llwybr hwn, gan nad yw tîm Gwasanaethau Brys erioed wedi cyflawni camp o’r fath o’r blaen – heb sôn am ddwy fenyw yn unig. Wrth gyfeirio at hyn, dywedodd George:
“Pan gysyllton ni â chwmnïau yswiriant am y daith hon am y tro cyntaf, nid oedd unrhyw yswiriant ar gael i fenywod dros 45 oed a oedd yn ceisio alldaith heb dywysydd. Roedd y sicrwydd yswiriant tebyg ar gael i ddynion, ond doedd dim byd o gwbl i fenywod, ac roedd hyn yr un fath ym mhob man yn y byd.”
“Nid yw hyn yn dderbyniol. Dylai fod yn bosibl i bob menyw neu ferch fanteisio ar bob cyfle mewn bywyd i gyflawni eu huchelgeisiau heb gyfyngiadau o’r fath.”
Yr alldaith
Yr anturiaeth
Ni fydd unrhyw gymorth na chefnogaeth gan y ddwy gydol eu taith. Byddant yn tynnu sled yr un gyda nwyddau hanfodol yn pwyso dros 85 cilogram ar bob un a hynny mewn tymheredd a all fod mor isel â -50c, a chyflymder gwynt posibl o dros 60 mya.
Ar ôl pedair blynedd o hyfforddiant, mae George a Bex yn paratoi i gychwyn ar yr alldaith ar y 10fed o Dachwedd. Byddant yn gadael eu ffrindiau a’u teuluoedd am tua 45 diwrnod, a threulio’r Nadolig mewn pabell gyda neb ond ei gilydd yn gwmni iddynt.
Herio stereoteipiau
Mae Angylion Tân yr Antarctig yn ceisio herio stereoteipiau o gwmpas yr hyn y mae menywod yn gallu ei wneud, gan obeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched a menywod i gyflawni’n fwy na’r disgwyl.
Dyma’r hyn a ddywedant:
“Wrth dyfu i fyny, ni welom erioed unrhyw fenywod oedd yn ddiffoddwyr tân nac anturwyr, ac felly nid oeddem yn gwybod mewn gwirionedd fod yr opsiynau hyn ar gael i ni.
“Credwn y dylai pawb gael pob cyfle mewn bywyd i gyflawni eu huchelgeisiau. Yn hanesyddol, mae menywod a merched wedi cael eu stereoteipio i rolau penodol, ac felly nid ydynt yn ymwybodol o’u galluoedd eu hunain y tu allan i’r ffiniau hyn.
“Rydyn ni’n bwriadu bod yn fodelau rôl gweladwy i fenywod a merched, gan na allwch gyrraedd rhywbeth os nad ydych chi’n deall ei fod ar gael!”
Agwedd ymchwil
Bydd Prifysgol Gorllewin Lloegr yn casglu data ar gyfer astudiaeth deinameg cymdeithasol i effeithiau amgylcheddau eithafol ar y corff o ganlyniad i’r alldaith, a bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn monitro cylchred mislif a menopos y ddwy fenyw tra bydd y ddwy are u taith.
Mae ymchwil o’r math hwn fel arfer yn cael ei gynnal gan y Fyddin Brydeinig, felly’n anaml iawn (os o gwbl) bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu â’r cyhoedd.
Yn dilyn trafodaethau gyda sawl Diffoddwr Tân sy’n fenywod ar draws y DU fod y Gwasanaeth yn gyffredinol yn colli menywod sy’n ddiffoddwyr tân rheng flaen pan fyddant yn cyrraedd oedran y menopos. Bernir erbyn hynny eu bod ‘yn methu â gwneud eu swyddi o hyn allan.’ Fel arfer byddant yn gwneud swyddi mwy ‘sedd gefn’; o fewn y Gwasanaeth neu mewn mannau eraill. Mae hyn yn effeithio ar faterion recriwtio a dargadwedd, gan godi cwestiwn am sut y gellir cefnogi menywod yn well trwy gydol eu gyrfaoedd cyfan gyda’r Gwasanaeth Tân.
Mae’r ddau yn anelu at godi cyfanswm o £25,000 mewn rhoddion tuag at yr alldaith. Os hoffech chi gyfrannu, neu ddarganfod mwy, gweler y ddolen yma.