Apêl Gŵyl y Banc wrth i ymosodiadau ar weithwyr brys barhau i gynyddu
Cyn y penwythnos Gŵyl y Banc estynedig, pan fydd ymosodiadau’n cynyddu’n nodweddiadol, mae gweithwyr brys yn apelio ar y cyhoedd i’w trin â pharch.
Mae cyfartaledd misol yr ymosodiadau ar weithwyr brys wedi cynyddu o 203 yn 2019, i 226 yn 2020, i 237 yn 2021, sy’n cynrychioli cynnydd o 4.9 y cant bob blwyddyn.
Dengys y ffigurau diweddaraf bod mwy na 1,440 o ymosodiadau yn y cyfnod chwe mis o 1 Gorffennaf 2021 i 31 Rhagfyr 2021.
Y pum math mwyaf cyffredin oedd cicio, poeri, camdrin geiriol, dyrnu a gwthio.
Ymhlith y dioddefwyr mae Joanna Paskell, parafeddyg yn y Bari, Bro Morgannwg, yr ymosodwyd arni fis Mai diwethaf gan glaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Yn dilyn yr ymosodiad gadawyd Joanna, sydd wedi bod yn weithiwr ambiwlans am chwarter canrif, yn dioddef o byliau panig.
“Digwyddodd tra roeddem ni’n ceisio symud y claf o’r troli i wely. Fe wnaeth hi gynhyrfu gan chwifio ei breichiau a’m dyrnu yn fy mrest. Cefais sioc gan ei fod yn gwbl annisgwyl. Doedd dim arwydd ei bod hi’n mynd i droi’n ymosodol.
Er fy mod i wedi cael braw, wnes i ddim meddwl dim ohono ar y pryd, dim ond cymryd tabledi lladd poen i leddfu’r boen.
Dim ond pan roeddwn i’n gwneud fy hun yn barod ar gyfer fy shifft nesaf y gwnes i sylweddoli beth oedd wedi digwydd, ac fe gefais bwl o banig. Bu’n rhaid i mi gymryd amser o’r gwaith.
Roedd hi’n anodd i mi ddychwelyd, a hyd yn oed nawr, rydw i’n wyliadwrus iawn wrth ymyl cleifion.”
Yn y cyfamser, gadawyd Andy Davies, parafeddyg yn Llangefni, Ynys Môn, â’i ysgwydd wedi’i dadleoli ar ôl i glaf ymosod arno fis Mehefin diwethaf. Mae Andy’n cofio:
“Roedd y claf yn mynd yn ymosodol iawn yn eiriol i’r graddau lle gwnaethom ni alw am gymorth wrth gefn gan yr heddlu. Wrth i mi geisio ei asesu, fe wnaeth fy nhaflu i’r llawr, gan ddadleoli fy ysgwydd chwith yn rhannol. Bu’n rhaid i mi gael chwe wythnos o ffysiotherapi wedyn i’m helpu i adfer yn dilyn yr anaf.
Roeddwn i yn yr heddlu milwrol yn flaenorol, felly rwy’n eithaf da am gadw pethau mewn blychau penodol, ond dydi hynny ddim yn golygu y dylem ni dderbyn hyn.”
Yn ystod y chwe mis dan sylw, gwnaeth bron i hanner yr ymosodiadau ar weithwyr brys ddigwydd yn Ne Ddwyrain Cymru; Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr oedd yr ardaloedd awdurdod lleol â’r mwyaf o achosion.
Dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) mae’r diffiniad gweithwyr brys yn cynnwys staff yr heddlu, y gwasanaeth tân a’r gwasanaeth ambiwlans yn ogystal â staff carchar a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae mis Mai yn dynodi blwyddyn ers lansio’r ymgyrch Gyda Ni, Nid yn ein Herbyn, a luniwyd gan y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys. Cofrestrwch eich cefnogaeth ac ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn a/neu #WithUsNotAgainstUs.