Buddsoddwyr mewn Pobl: Gwobrau Aur ac Arian am ein buddsoddiad yn ein pobl a’u llesiant!
Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru rydym wedi llwyddo i gadw ein hachrediad Buddsoddwyr mewn Pobl (BmP) ac rydym hefyd wedi ennill gwobr newydd sy’n canolbwyntio ar les ein staff. Mae’r Gwasanaeth wedi derbyn Gwobr Aur am fuddsoddi mewn Pobl a Gwobr Arian am fuddsoddi mewn llesiant oedd yn canmol ein diwylliant cefnogol, ein brwdfrydedd dros wella a datblygu, ein ffocws ar lesiant a’n hymrwymiad i ddiogelu cymunedau De Cymru. Tynnodd y Wobr am fuddsoddi mewn Pobl sylw’n benodol at y cynnydd sylweddol rydym wedi’i wneud yn ystod y tair blynedd diwethaf, gan ganolbwyntio ar bobl, yr amgylchedd, galluoedd i ymateb i ddigwyddiadau a disgwyliadau ehangach am y Gwasanaeth.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway QFSM: ‘Mae hwn yn gyflawniad gwych i ni ac rwy’n hynod falch. Rydym yn cymryd rhan yn y rhaglen Buddsoddwyr mewn Pobl, gan ei bod yn asesu ein sefydliad yn oddrychol, gan roi cipolwg ar ein harferion gwaith a’n diwylliant. Mae penderfyniad y Gwasanaeth i gymryd rhan mewn Buddsoddwyr mewn Pobl yn amlinellu ein hymrwymiad i arwain, gwella a chefnogi ein staff. Amlygodd y dadansoddiad BmP ein bod wedi symud ymlaen llawer, ond mae rhywbeth newydd i’w ddysgu o hyd, ac rydym yn parhau i ofyn am adborth, arloesedd a gonestrwydd gan ein staff, er mwyn sbarduno gwelliant parhaus. Adolygodd cyfweliadau BmP ac adborth arolwg gan ein staff dystiolaeth mewn perthynas â meini prawf megis arweinyddiaeth, cyfathrebu a llesiant – diolch i’r sawl a gymerodd ran, roedd y broses yn gyfrinachol ac roedd gonestrwydd yn bwysig iawn ynddi. Gyda’n gilydd, gallwn lunio ein dyfodol a pharhau i ddarparu gwasanaeth eithriadol ar draws ein cymunedau i gyd.
Mae’r cyfnod digynsail yr ydym yn byw ynddynt wedi amlygu, yn fwy nag erioed, yr angen i greu amgylchedd sy’n amddiffyn ein staff ac yn hyrwyddo pob agwedd ar lesiant ill dau. Mae’r buddsoddiad yn yr achrediad llesiant, a dyma’r tro cyntaf i ni gael ein hasesu ar gyfer y wobr hon, yn helpu’r Gwasanaeth i wneud hynny drwy nodi ein cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Mae’r adroddiad yn amlinellu lle’r ydym ar ein llwybr at feithrin diwylliant sy’n blaenoriaethu lles.
Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl: ‘Rwy’n falch iawn o longyfarch Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar eu cyflawniadau anhygoel yn ddiweddar; maent wedi ennill achrediad lefel Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, ac ar ben hynny, y Gwasanaeth yw’r cleient cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan yn ein hasesiad Lles newydd. Yn y broses hon, mae ennill achrediad lefel Arian, yn gymeradwyaeth wych sy’n adlewyrchu ymrwymiad y sefydliad i lesiant corfforol, seicolegol a chymdeithasol pob cydweithiwr.
Dywedodd Jackie Lewis, yr Asesydd gyda BMP: ‘Mae pobl yn credu’n wirioneddol bod GTADC yn lle gwych i weithio ac mae’r brwdfrydedd a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan y mwyafrif helaeth o’ch pobl yn rhagorol. Yn anaml iawn y gwelir sefydliad lle mae pobl yn credu eu bod yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau eu hunain ac mae rhai o’r enghreifftiau o orsafoedd a thimau’n gwneud llawer mwy na’r gofyn i gefnogi’r cymunedau hynny a’r bobl sydd angen cymorth yn rhywbeth y dylech fod yn falch iawn ohono.”
I gael rhagor o wybodaeth a gweld y cyfleoedd ar gael i ymuno â ni, ewch i wefan y Gwasanaeth.