Cadetiaid Tân yn arddangos eu sgiliau i Ysgrifennydd y Cabinet
Gorsaf Dân Trelái, Dydd Llun y 10fed o Fawrth 2025 – Fe ymwelodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru am Dai a Llywodraeth Leol, â Gorsaf Dân Trelái i weld y gwaith gwerthfawr a gynhaliwyd gan uned Cadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC).
Mae rhaglen y Cadetiaid Tân, sydd wedi’i chynnal ers sawl blwyddyn o fewn GTADC, yn cynnwys unedau o gadetiaid yn nifer o’r 47 o Orsafoedd Tân y Gwasanaeth. Mae’r fenter hon yn cynnig cyfle cyffrous i bobl ifanc archwilio gyrfa o fewn y gwasanaethau brys wrth iddynt ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol, megis hunanddisgyblaeth, gwaith tîm a hyder cymdeithasol.
Yn ystod ei hymweliad, cafodd Ms Bryant gyfle i fod yn dyst i’r sgiliau trawiadol a ddatblygwyd gan y cadetiaid yn ystod eu rhaglen dwy flynedd o hyd. Arddangosodd y cadetiaid eu hyfedredd mewn technegau diffodd tanau hanfodol, gan gynnwys codi ysgol ar gyfer achub anafusion a defnyddio pibellau dŵr i ddiffodd dynwarediad o dân bin diwydiannol – oll wrth bwysleisio diogelwch ac effeithlonrwydd.
Fe wnaeth PSTC Dean Loader a Rh Gp Richie Smart lywio Ysgrifennydd y Cabinet drwy’r arddangosfa, gan arddangos yr offer a’r technegau sy’n greiddiol i hyfforddiant y cadetiaid.
Fe wnaeth Hyfforddwr y Cadetiaid Tân, Robert Picton, hefyd amlygu arwyddocâd y rhaglen, wrth iddo nodi bod modd i’r cadetiaid nid yn unig ddysgu sgiliau diffodd tân hanfodol ond hefyd adeiladu cydlyniad tîm a theimlad cryf o falchder a chyflawniad. Meddai, “Fel Cadetiaid Tân, mae’r unigolion hyn yn cael eu trin fel diffoddwyr tân dan hyfforddiant, yn dysgu sgiliau craidd ymatebwr brys wrth ymgymryd â gweithgareddau yn eu gorsaf dân leol. Mae disgwyl iddynt ddangos disgyblaeth ac ymroddiad, gan adlewyrchu ymroddiad ein diffoddwyr tân. Bydd hyn yn eu paratoi ar gyfer llwyddiant mewn bywyd, p’un ai os ydyn nhw’n dewis dilyn gyrfa o fewn y gwasanaeth tân neu beidio.”
Yn dilyn yr arddangosfeydd, cafodd y cadetiaid gyfle i siarad yn uniongyrchol â’r Ysgrifennydd Cabinet, gan rannu eu dyheadau i ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn y gwasanaeth tân.
Mynegodd sawl un eu huchelgais i ddod yn ddiffoddwr tân yn y dyfodol, tra’r oedd eraill yn siarad ynghylch recriwtio cadetiaid newydd o’u hysgolion a’u cylchoedd cymdeithasol, gan bwysleisio’r pwysigrwydd o adeiladu sgiliau cymdeithasol a dyheadau sydd â chanolbwynt ar yrfa ill dau.
Fe wnaeth yr Hyfforddwr Cadetiaid Norman Rees ganmol Gorsaf Dân Trelái am eu cefnogaeth eithriadol i’r rhaglen cadetiaid. “Mae criwiau’r orsaf wedi bod yn eithriadol o groesawgar ac ry’n ni’n gweithio ar ffyrdd o ddangos ein gwerthfawrogiad. Un syniad yw trefnu noson lle mae’r cadetiaid yn coginio i’r wylfa – a bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt feithrin eu sgiliau coginio,” eglurodd.
Wrth edrych ymlaen, mae’r cadetiaid yn gyffrous wrth iddynt gystadlu yn Her y Cadetiaid sydd ar ddod, a fydd yn cymryd lle yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu De Cymru ym Mhorth Caerdydd ar Ebrill y 5ed. Mynegodd y cadetiaid eu hyder ynghylch eu cyfleoedd o sicrhau buddugoliaeth eleni.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gynnig ei chefnogaeth lawn, gan ddymuno pob lwc i Gadetiaid Tân Trelái yn y gystadleuaeth sydd ar ddod. “Roedd e’n ardderchog ymweld â Gorsaf Dân Trelái a chwrdd â’r Cadetiaid Tân a’u hyfforddwyr i glywed â’m clustiau fy hun am eu profiadau gyda’r rhaglen a’u gweld ar waith.
“Roedd eu gwaith tîm, eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth i’w gilydd wir yn ysbrydoledig ac rwy’n ffyddiog fod gennym ddiffoddwyr tân rhagorol yn y dyfodol ymysg yr uned yn Nhrelái.
gan blant wagleoedd diogel i ddysgu sgiliau newydd a chymdeithasu, felly rwy’ mor ddiolchgar i GTADC a’u hyfforddwyr ymroddedig am ddarparu’r fath amgylchedd sy’n meithrin a chefnogi o fewn y gymuned leol.”
“Mae’n hanfodol bod Am ragor o wybodaeth ar raglen Cadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ymwelwch â’r dudalen hon.