Canllawiau Diogelwch Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness wedi dychwelyd yn ei anterth ar gyfer 2022 gyda chefnogwyr unwaith eto yn gallu cefnogi eu hoff dimau mewn stadiwm.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gobeithio bod pawb yn mwynhau’r Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn ddiogel, felly rydyn ni wedi llunio canllaw diogelwch i chi ei ddilyn os ydych chi’n ddigon ffodus i fynd i gêm eleni, neu ddathlu allan gyda ffrindiau.
Rydym yn deall bod pobl yn hoffi cwpl o ddiodydd wrth gefnogi’n timau, ond rydym yn eich annog i yfed yn gyfrifol a ddilyn y cyngor ddiogelwch dilynol;
[Recordiwyd Ionawr 2020.]
PEIDIWCH ag yfed a gyrru
Peidiwch â mentro bod yn un o’r 100,000 o yrwyr sydd wedi yfed neu gymryd cyffuriau sy’n cael eu dal bob blwyddyn. Gallech wynebu gwaharddiad o 12 mis o leiaf, dirwy fawr, cofnod troseddol neu gael eich carcharu hyd yn oed.
PEIDIWCH â cheisio coginio ar ôl yfed
Cofiwch – mae tân yn cynnau pan fydd eich sylw yn crwydro!
Coginio heb oruchwyliaeth yw un o brif achosion tanau domestig yn ne Cymru a gall arwain at ganlyniadau trasig. Os ydych chi wedi bod yn yfed, peidiwch geisio coginio. Os ydych chi eisiau gwneud bwyd o gwbl ar ôl cyrraedd adref, mae’n well paratoi bwyd oer neu archebu bwyd.
Lawrlwythwch ein llyfryn diogel ac iach yma.
BYDDWCH yn ddiogel o gwmpas dŵr
Peidiwch â mynd i nofio ar ôl yfed alcohol. Mae alcohol yn chwarae rhan mewn nifer o ddamweiniau dŵr oherwydd ei fod yn amharu ar eich gallu i wneud penderfyniadau, y ffordd rydych yn ymateb a’ch gallu i nofio.
Darganfyddwch mwy o wybodaeth am ddiogelwch yn y dwr yma.
PARCHWCH weithwyr y gwasanaethau brys
Cafwyd mwy na 1,360 o ymosodiadau yn y cyfnod chwe mis rhwng 1 Ionawr 2021 a 30 Mehefin 2021. Roedd yr ymosodiadau’n cynnwys cicio, slapio, taro pennau a cham-drin geiriol, gan amrywio o ymosodiad cyffredin i ymosodiadau difrifol wedi’u cynllunio ymlaen llaw ac wedi arwain at niwed corfforol difrifol. Roedd o leiaf 21 digwyddiad yn cynnwys defnyddio arf.
Os ydych chi allan yn mwynhau’r rygbi, parchwch a gwarchodwch ein gweithwyr brys.
Gweithio gyda ni, nid yn ein herbyn.
DILYNWCH Ganllawiau Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Rygbi’r Chwe Gwlad
Er y gall cefnogwyr ddychwelyd i’r stadiwm, mae yna gyfyngiadau o hyd mewn grym i gadw pawb yn ddiogel.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau yma: