Canolfan Hyfforddi Diffoddwyr Tân Newydd ac Arloesol yn agor yn Ne Cymru
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi agor ei ddrysau i Gyfleuster Hyfforddi Tân Gwirioneddol (CHTG), sef y cyfleuster cyntaf o’r fath yng Nghymru ac yn darparu hyfforddiant o’r safon uchaf i Ddiffoddwyr Tân.
Mae gan y cyfleuster hyfforddi tri llawr ym Mhorth Caerdydd dechnoleg ddatblygedig a fydd yn galluogi diffoddwyr tân i gyflawni hyfforddiant tân gwirioneddol o ansawdd rhagorol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd heriol bywyd go iawn.
Bydd y strwythur unigryw, a adeiladwyd gan gwmni adeiladu ISG a leolir yn ne Cymru, yn efelychu tanau gwirioneddol mewn mathau adeiladau amrywiol.
Mae gan y cyfleuster system echdynnu mwg bwrpasol a elwir yn ‘smocsidiwr’, ac felly mae modd sicrhau bod unrhyw fwg a gynhyrchir yn yr adeilad yn cael ei ddal, ei dynnu a’i hidlo cyn ei ryddhau i’r atmosffer, gan fodloni’r holl ofynion cyfreithiol ac amgylcheddol.
Mae gan yr ‘CHTG’ amrywiaeth o systemau diogelwch cynhenid ym mhob rhan o’r adeilad ac mae’r rhain yn cael eu monitro o ystafell reoli, gan sicrhau diogelwch yr holl ddefnyddwyr.
Mae’r penderfyniad i adeiladu’r cyfleuster arloesol hwn yn dangos ymrwymiad y Gwasanaeth i ddarparu’r safonau uchaf posibl o hyfforddiant yn y cyfleusterau gorau sydd ar gael i gefnogi ein rôl o gadw cymunedau De Cymru’n ddiogel.
Adeiladwyd y cyfleuster wrth ochr ein Canolfan Hyfforddi gyfredol ym Mhorth Caerdydd ac mae’r gyfleuster yn ei hatgeu’r Ganolfan sydd eisoes yn darparu hyfforddiant o ansawdd rhagorol gan ddefnyddio technegau modern mewn cyfleusterau uwch gan gynnwys; adeiladau hyfforddi diwydiannol a domestig, tŵr amlbwrpas ar gyfer dringo ac abseilio, ardal benodedig ar gyfer hyfforddiant gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, twnnel gofod cyfyng, strwythur achub â rhaff, ardaloedd ar gyfer deunyddiau peryglus, a llawer mwy.
Dywedodd Ian Greenman sy’n Bennaeth Hyfforddi a Datblygu a Rheolwr Ardal: ‘Mae hwn yn achlysur nodedig i’n Gwasanaeth a bydd yn galluogi 1,400 o ddiffoddwyr tân i gynnal y sgiliau a’r cymwyseddau proffesiynol sydd eu hangen i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Bydd cael y cyfleusterau gwych hyn yng nghanol De Cymru yn sicrhau bod ein diffoddwyr tân yn derbyn yr hyfforddiant gorau posibl i ymateb i ystod eang iawn o sefyllfaoedd brys.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn AM: “Rwy’n falch iawn o agor cyfleuster newydd sbon danlli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n swyddogol. Ces brofiad uniongyrchol a gwych wrth weld â’m llygaid fy hun sut y caiff ein diffoddwyr tân eu hyfforddi.
“Yn ddi-os, mae llwyddiant parhaol ein gwasanaethau tân wrth iddynt leihau amledd a difrifoldeb tanau yn bosib oherwydd cyfleusterau hyfforddi fel y rhain, sy’n darparu’r amgylchiadau delfrydol sydd eu hangen ar ddiffoddwyr tân i hyfforddi i ymladd tanau’n effeithiol a diogel.
“Dymunaf bob llwyddiant i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a phawb fydd yn defnyddio’r ganolfan.”
Dywedodd Rob Martin, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol ISG: “O ganlyniad i gydweithio â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydym wedi creu un o’r cyfleusterau hyfforddi ymladd tân mwyaf blaengar yn y DU, yma yng nghanol Cymru. Mae darparu’r senarios mwyaf realistig ac eithafol y gall ein diffoddwyr tân eu hwynebu yn arf hanfodol i greu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiad y mae’r Gwasanaeth yn galw amdanynt, ac ymhen ychydig iawn o amser mae’r ganolfan wedi sefydlu enw da yn genedlaethol o ran rhagoriaeth mewn hyfforddiant. “