Cloch Arbed Bywydau o Orsaf Ganolog Caerdydd yn Mynd ar Daith Genedlaethol
Mae cloch sydd wedi helpu i achub llawer o fywydau yn Ne Cymru dros y blynyddoedd yn mynd ar daith genedlaethol gyda’r nod o arbed llawer mwy yn y dyfodol. Yn y gorffennol, defnyddiwyd cloch yr orsaf o Orsaf Dân ac Achub Ganolog Caerdydd i rybuddio ymladdwyr tân am argyfyngau ac ers hynny mae system electronig wedi ei disodli. Fodd bynnag, cadwyd y gloch â llaw at ddibenion seremonïol.
Erbyn hyn mae’r gloch wedi cael ei benthyg i her beicio elusennol genedlaethol sydd â’r nod o helpu plant â chanser i ganu eu cloch ‘diwedd triniaeth’ eu hunain – seremoni bersonol i nodi’r pwynt y maent yn glir o’r afiechyd. Mae gweithwyr Kwik Fit ledled y wlad yn cyfnewid ceir am feiciau yn eu ‘Tour de Branch’ – taith genedlaethol i godi arian hanfodol i ‘Children with Cancer UK’, elusen â chenhadaeth i helpu pob plentyn sydd wedi’i ddiagnosio â chanser i ganu eu cloch diwedd triniaeth.
Gosodir cloch y gwasanaeth tân ar gerbyd cymorth y tîm ac fe’i cenir i nodi cychwyn pob cymal o’r Tour de Branch, sy’n gweld mwy nag 80 o feicwyr yn ymgymryd â siwrne sy’n cysylltu 122 o ganolfannau Kwik Fit o’r Alban i Gernyw. Mae’r siwrne’n cychwyn yn Aberdeen ar Ddydd Llun yr 19eg o Awst ac yn gorffen fis yn hwyrach ym Manceinion ar ôl teithio mwy na 2,500 o filltiroedd, ryw 300 milltir yn fwy na ras Tour de France eleni.
Bydd y tîm o Kwik Fit yn pasio trwy Gaerdydd ar y12fed o Fedi yn ystod y cymal o’r daith yn Ne Cymru a byddant yn aros yng Ngorsaf Dân ac Achub Canol Caerdydd i ddiolch i’r ymladdwyr tân yno am eu cefnogaeth ac am benthyg y gloch, a fydd yn helpu i ysbrydoli’r beicwyr ar adegau heriol.
Dywedodd Gareth Llewellyn, Rheolwr Gorsaf Canol Caerdydd, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru,: “Fel Gwasanaeth, hoffem ddymuno pob daioni i Kwik-Fit gyda’u hymdrechion codi arian, gan alluogi mwy o blant i ganu’r gloch ‘diwedd triniaeth’. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gloch, ar ôl ei gosod ar gefn y cerbyd arweiniol, yn helpu i ysgogi a chefnogi’r beicwyr wrth iddynt gyflawni eu her. ”
Dywedodd Dave Rees, Rheolwr Gweithrediadau Kwik-Fit De Orllewin a’r Chanolbarth: “Mae’n anhygoel cael cefnogaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae’n fraint gennym fenthyg y gloch i ysgogi’r beicwyr a’u hatgoffa o’r hyn y mae’r gloch yn ei symboleiddio. Rydym yn edrych ymlaen at ei dychwelyd pan fyddwn wedi cwblhau ein her yn llwyddiannus gyda’r gloch yn chwarae rôl wrth achub hyd yn oed mwy o fywydau. ”
Dewisodd gweithwyr cwmni gwasanaethu ac atgyweirio moduro mwyaf y DU ‘Children with Cancer UK’ i fod yn bartner elusennol iddo ar gyfer 2019 ac maent yn anelu at godi £1miliwn yn ystod y flwyddyn. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at gefnogi teuluoedd plant sy’n wynebu canser yn ogystal ag at ymchwil i ffyrdd o atal canser o ran cenedlaethau o blant yn y dyfodol.
Er mwyn helpu i ysbrydoli’r tîm wrth iddynt ymgymryd â’r milltiroedd caled, bydd y beicwyr hefyd yn cwrdd â phlant a theuluoedd sydd wedi ymdopi â’r profiad trawmatig o gael diagnosis canser a’i oresgyn a chanu’r gloch i nodi diwedd eu triniaeth. Bydd eu straeon yn dod â phwysigrwydd y codi arian y mae’r tîm yn ei wneud yn fyw.
Mae Kwik Fit wedi bod yn cynnal llu o weithgareddau codi arian i gefnogi gwaith yr elusen yn ystod y flwyddyn, gyda mwy i ddod, gan gynnwys cyfranogiad torfol gan staff yn y Simplyhealth Great North Run.
Os ydych chi’n dymuno rhoi hynny wneud hynny’n hawdd iawn trwy anfon neges destun yn dweud KWIK3 i 70007 i gyfrannu £3* neu drwy ymweld â’r dudalen we codi arian fundraising webpage i gael mwy o fanylion.
Bydd manylion y rhaglen codi arian barhaus yn cael eu rhannu trwy’r cyfryngau cymdeithasol, gyda chwsmeriaid yn gallu dilyn y cwmni ar Twitter yn @kwik_fit.
*Texts cost £5 plus your standard network rate. Your details will only be used for the purpose of processing your donation and will not be used for any marketing purposes by Children with Cancer UK. If you have any questions you can call Children with Cancer UK on 020 7404 0808. Registered Charity Number: 298405. Expiry date 31/12/19.