Covid-19 – Cyngor Diogelwch Tân
Os ydych yn gweithio gartref, yn hunanynysu neu’n ymbellhau’n gymdeithasol, rydym yn gwybod y byddwch yn treulio mwy o amser gartref yn ystod yr wythnosau nesaf. Gallai hyn gynyddu’r siawns y byddwch chi’n cael tân yn eich cartref.
Yn ffodus, drwy gymryd pedwar cam hawdd, gallwch chi leihau’r risg yn sylweddol i chi a’ch anwyliaid
Diffyg gwyliadwriaeth yw prif achos tân mewn tai ar lefel genedlaethol. Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o’r tanau coginio rydym yn eu mynychu yn ymwneud â rhywun sy wedi dechrau coginio bwyd, anghofio amdano a’i losgi. Fel arfer, mae’r gweddill o achosion yn cynnwys sosbenni sglodion – defnyddiwch sglodion i’w coginio yn y ffwrn yn lle hynny
Achos blaenllaw arall o dân mewn tŷ yw pobl yn gadael pethau fel dillad a thywelion te ar hobiau a gwresogyddion cludadwy. Gall eitemau fel hyn fynd ar dân yn hawdd , felly mae’n hanfodol eich bod yn eu cadw draw o fflamau noeth a ffynonellau gwres eraill.
Hyn a hyn o b yn wêrunig y gall ceblau estyniad eu cymryd –os plygiwch ormod o bethau iddynt mae siawns go lew y byddant yn chwythu. Gall nwyddau diffygiol hefyd fod yn broblem fawr. Os nad yw eich peiriant golchi neu eich sychwr dillad yn gweithio’n iawn – rhowch y gorau i’w ddefnyddio ar unwaith a’i harchwilio.
Mae larymau mwg yn achub bywydau, ond rhaid bod rhai gyda chi a rhaid bod nhw’n gweithio’n iawn. Gallant roi rhybudd cynnar i chi am dân – yn ddigon cynnar i chi ddianc yn ddiogel. Prynwch nhw. Ffitiwch nhw. Profwch nhw.
Yn ystod cyfnod hwn, sy’n heriol iawn i bob un ohonom, byddem yn gofyn, yn ogystal ag ystyried y cyngor hwn eich hun, eich bod yn trosglwyddo’r negeseuon i’ch ffrindiau, eich cymdogion a’ch perthnasau – yn enwedig y rhai dros 70 oed.
Cofiwch, mae’n diffoddwyr tân yn barod i ymateb i alwadau 999, ledled De Cymru, yn ôl yr angen.
Cliciwch yma am wybodaeth ddiogelwch tân yn y cartref
Cliciwch yma am wybodaeth ddiogelwch busnes
Oes gennych chi blant gartref?
Os yw eich plant gartref ar hyn o bryd, mae gennym amrywiaeth o weithgareddau i’w cadw’n brysur, gan gynnwys pecynnau gweithgareddau y gellir eu lawrlwytho, taflenni lliwio a gemau rhyngweithiol.
Mae’r sefyllfa gyfredol yn ddigynsail ond gall y cyhoedd fod yn sicr y byddwn yn parhau i weithredu mor agos i’r arfer ag sy’n bosibl. Mae’r amgylchiadau a chyngor gan yr awdurdodau yn prysur newid, ond ein nod yw amddiffyn pobl De Cymru yn ogystal â’n staff.
I gael y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am y coronafeirws, ewch i wefan GIG: www.gig.uk/coronavirus a dilynwch ganllawiau UK Government ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.