Llosgi dan Reolaeth – Gwastraff o’r Ardd a’r Cartref
Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, rydym yn eich annog i beidio â chael eich temtio i losgi gwastraff o’ch gardd neu o’ch cartref. Rydym yn deall bod y cyfnod hwn o gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu yn cynnig cyfle i wneud ychydig o arddio a chlirio eich siediau. Fodd bynnag, gall llosgi gwastraff o’ch gardd neu o’ch cartref fod yn beryglus ac yn anrhagweladwy, a gall tanau ledaenu’n rhwydd y tu hwnt i reolaeth. Gallai hyn arwain at alw dianghenraid ar ein criwiau i orfod ymateb i’r tanau hyn, a gallai hefyd olygu llawr mwy o alwadau i’n Hystafell Reoli. Gallai’r mwg hefyd effeithio ar eich anadlu, llidio eich croen a’ch llygaid, a gwaethygu cyflyrau anadlol megis asthma.
Cysylltwch â’ch Cyngor Sir lleol i holi ynghylch unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff yn eich ardal.