De Cymru fydd y gwasanaeth tân ac achub cyntaf yn y DU i dreialu ‘Cathod Tân’
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yw’r gwasanaeth tân ac achub cyntaf yn y DU i dreialu ‘Cathod Tân’ i gynorthwyo diffoddwyr tân mewn digwyddiadau.
Bydd y treial yn gweld cathod wedi’u hyfforddi’n arbennig yn gweithio law yn llaw â diffoddwyr tân yn ystod galwadau i gefnogi gyda digwyddiadau fel achubiadau anifeiliaid ac achub o uchder. Anifeiliaid chwimwth yw cathod sydd ag adweithiau rhyfeddol ac maen nhw’n gallu neidio hyd bum gwaith eu taldra, ac felly’n bartneriaid purrffaith i griwiau.
Gan ddefnyddio’u hystod eirfa unigryw sy’n cynnwys gwnian, mewian, trilio, trydar, chwyrnu, nadu a hisian, bydd Cathod Tân yn gallu trosglwyddo negeseuon critigol a diweddariadau i griwiau yn ystod digwyddiad.
Dywedodd yr Hyfforddwr Arbenigol Cathod, Claude. J. O’King:
“Rwy’n falch i fod ar flaen y gad gyda’r treial arloesol hwn. Mae cathod yn meddu ar nifer o briodoleddau defnyddiol a all fod yn gymorth yn ystod digwyddiadau. Er enghraifft, gall cath gyffredin gyrraedd cyflymder o hyd at 30 mya, yn eu gwneud nhw cyn gynted â rhai athletwyr Olympaidd.
Hefyd, mae ganddynt synhwyrau sy’n fwy na dyn a chŵn, yn enwedig clywed a gweld. Mae modd iddynt neilltuo synnau uniongyrchol, a chlywed amleddau uwch o ran sain a gweld yn well mewn tywyllwch a golau gwan.
Ry’n ni’n obeithiol bydd ein Cath Tân dan Hyfforddiant, Callie, yn pasio’i chwrs hyfforddi cychwynnol gan ddechrau gweithio â chriwiau ym mis Ebrill.”
Mae teulu Callie’n falch ei bod yn gallu helpu gwneud gwahaniaeth yn ei chymuned. Maen nhw’n dweud eu bod wedi bod yn ddringwr brwd ers yn ifanc a’i bod yn cadw llygad manwl ar lygod ac adar ar hyd y gymdogaeth.
Yn bedair blwydd oed, gwahoddwyd Callie i gymryd rhan mewn Treial Cathod Tân, lle bu’n gweithio’n agos gyda Diffoddwr Tân Ben Chessell o Orsaf Pont-y-clun i saernïo’i sgiliau ac i weld os oes ganddi’r ddawn i fod yn rhan o #DîmDeCymru.
Wedi iddi basio ei chyfnod prawf, byddwn ni’n siŵr o rannu mwy ynghylch Callie a’r Treial Cathod Tân.
Sicrhewch eich bod yn ein dilyn ni ar Facebook | Twitter | Instagram am ddiweddariadau!