Deall Peryglon Dŵr 2022
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymuno â Gwasanaethau Tân ac Achub ar draws y DU i gefnogi ymgyrch Deall Peryglon Dŵr y NFCC (25 Ebrill – 1 Mai) ac yn gofyn i bobl gadw’n ddiogel yn y dŵr ac o’i amgylch wrth i’r tywydd wella.
Pwrpas yr ymgyrch yw rhybuddio pobl am y risg o foddi’n ddamweiniol pan fyddant yn y dŵr ac o’i gwmpas. Nid oedd gan bron i 50 y cant o bobl a foddodd yn ddamweiniol yn 2020 unrhyw fwriad o fynd i mewn i’r dŵr – wnaeth llawer o rai eraill tanamcangyfrif y risg o neidio mewn i ddŵr oer. Yn y ddau achos, gall effeithiau sioc dŵr oer a pheidio â gwybod sut i hunan-achub achosi i nofwyr cryfaf i foddi.
Hyd yn oed ar ddiwrnod cynnes, gall y tymheredd mewn dŵr agored aros yn oer iawn, gan achosi adwaith corfforol a all ei gwneud hi’n anodd rheoli anadlu, achosi panig a’i gwneud hi’n anodd nofio.
Os ydych chi’n ffeindio eich hun mewn trafferth yn y dŵr …
Am fwy o gyngor ac arweiniad diogelwch, ewch i’n Tudalen Diogelwch Dŵr.
Dywedodd Dawn Whittaker, Arweinydd NFCC ar gyfer Atal Boddi:
“Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cael sioc o glywed bod 254 o fywydau wedi’u colli yn 2020 oherwydd bod pobl yn treulio amser yn ac o gwmpas dŵr. Mae modd atal y marwolaethau hyn, felly gofynnwn i bawb fod yn ymwybodol o ddŵr.
Mae NFCC yn gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Tân ac Achub a phartneriaid i annog pobl i fod yn ddiogel o amgylch dŵr ac i amlygu’r risg o foddi damweiniol. Wrth i’r tywydd wella, gall gwasanaethau ar draws y wlad, ynghyd â’n cydweithwyr yn Wylwyr y Glannau a’r RNLI, wynebu niferoedd enfawr o alwadau i helpu pobl sydd mewn trafferthion dŵr. Trwy godi ymwybyddiaeth nawr, rydyn ni’n gobeithio cadw pobl yn ddiogel a lleihau’r nifer o anafiadau a marwolaethau yn y dŵr wrth i’r haf agosáu.”
Cadwch lygad am #DeallPeryglonDŵr a #ParchwchYDŵr ar gyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth a chyngor ar ddiogelwch.
Adnoddau Defnyddiol: