Diffodd Tân mewn Ffatri Ailgylchu Plastig ym Mlaenafon yn dilyn Ymateb Amlasiantaethol
Am tua 9:39yh ar y 4ydd o Fedi 2021, ymatebom i adroddiadau am dân mawr mewn ffatri ailgylchu yn Ystâd Ddiwydiannol Kays And Kears, Blaenafon.
Cafodd diffoddwyr tân eu danfon i’r lleoliad i daclo’r tân oedd yn cynnwys tua 600 tunnell o blastig wedi’i ailgylchu.
Achos maint y tân, parhaodd y deunyddiau i fudlosgi a gweithiodd criwiau mewn partneriaeth i lunio strategaethau a phenderfynu camau gweithredu.
Defnyddiwyd amrywiaeth o offer arbenigol gan gynnwys llwyfannau ysgolion uchel, pympiau cyfaint mawr a nifer o beiriannau tân i fynd i’r afael â’r tân a diogelu’r ardal.
Mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Heddlu Gwent ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gweithiodd ein criwiau gyda’i gilydd i leihau’r risg i’r amgylchedd.
Derbyniwyd neges i stopio am 12:24pm ar y 5ed o Fedi 2021 a chadarnhawyd bod y tân wedi’i ddiffodd.
Mae proses lanhau bellach ar y gweill a hoffem atgoffa trigolion lleol bod y gwaith ailgylchu’n dal ar gau ar hyn o bryd. Dylid dilyn canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r ardal gyfagos.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio ar nifer o fesurau i helpu i leihau effaith llygredd ar yr amgylchedd lleol. Fel rhagofal diogelwch, gofynnwyd i breswylwyr cyfagos gadw eu ffenestri a’u drysau ar gau gan fod mwg yn cronni yn yr ardal, mae’r mesur hwn wedi’i godi erbyn hyn.
Os oes unrhyw bryderon amgylcheddol gyda chi mae croeso i chi gysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru drwy ffonio 0300 065 3000, sydd ar gael 24 awr.
Bydd y lleoliad ar gau o hyd fel rhagofal i ganiatáu gwaith glanhau llawn a sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.
Mae archwilwyr tân wedi ail-arolygu’r ardal sawl gwaith dros y penwythnos a byddant yn y lleoliad y bore yma i gynnal archwiliadau pellach.
Mae ein criwiau â’n partneriaid yn diolch i breswylwyr a’r gymuned leol am eu hamynedd a’u cefnogaeth.