Diffodd Tân yng Ngwaith Ailgylchu Penallta yn dilyn Ymateb Amlasiantaethol
Tua 3:13yh Ddydd Mercher y 1af o Fedi 2021, ymatebom i adroddiadau am dân helaeth mewn ffatri ailgylchu yn Ystâd Ddiwydiannol Penallta yn Hengoed.
Danfonwyd diffoddwyr tân i’r lleoliad i fynd i’r afael â’r tân oedd yn cynnwys tua 200 tunnell o beiriannau a deunyddiau ailgylchu gan gynnwys plastigau a metelau.
Achos maint y tân, roedd y deunyddiau’n mudlosgi o hyd a gweithiodd criwiau ar y cyd i lunio strategaethau a phenderfynu ar gamau gweithredu.
Roedd timau Chwilio ac Achub Trefol y Gwasanaeth hefyd yn y lleoliad i ddarparu cymorth a goleuadau i griwiau ac asiantaethau partner oedd yn gweithio dros nos.
Defnyddiwyd amrywiaeth o offer arbenigol gan gynnwys llwyfannau ysgolion uchel, pympiau cyfaint uchel a nifer o beiriannau tân i helpu i fynd i’r afael â’r tân a diogelu’r ardal.
Gweithiodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) â’n diffoddwyr tân i leihau’r risg i’r amgylchedd ac atal llifogydd mewn eiddo cyfagos.
Y bore yma (Dydd Gwener y 3ydd o Fedi 2021) ychydig ar ôl 9:00yb, derbyniwyd neges i stopio a chadarnhawyd bod y tân wedi’i ddiffodd. Fel rhagofal diogelwch, gofynnwyd i drigolion cyfagos gadw eu ffenestri a’u drysau ar gau achos bod mwg wedi cronni yn yr ardal, mae’r mesur hwn erbyn hyn wedi’i godi.
Dywedodd Mark Kift, Rheolwr Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
“Roedd criwiau lluosol o wahanol orsafoedd yn ardal De Cymru yn bresennol yn y lleoliad ac ar ôl cyrraedd gwlwyd bod y tân wedi cael gafael sylweddol. Gweithiodd criwiau’n ddiflino i fynd i’r afael â’r tân gan ddefnyddio eu hyfforddiant ac amrywiaeth o adnoddau i atal y tân rhag lledaenu ac effeithio ar ardaloedd eraill.
Ers y bore yma (Dydd Gwener, y 3ydd o Fedi 2021), nid yw ein diffoddwyr tân yn bresennol yn lleoliad y digwyddiad a diolch i weithredu amlasiantaethol ar y cyd, roedd modd i ni allu cynnwys a diffodd y tân.
Erbyn hyn mae’r broses lanhau ar waith a hoffem atgoffa preswylwyr lleol bod y safle ailgylchu yn parhau i fod ar gau ar hyn o bryd. Dylid dilyn canllawiau gan CNC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r ardaloedd cyfagos.
Oes oes unrhyw bryderon amgylcheddol gyda chi, mae croeso i chi gysylltu â CNC ar 0300 065 3000, sydd ar agor 24 awr y dydd.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio ar nifer o fesurau i helpu i leihau effaith llygredd ar yr amgylchedd lleol.
Bydd y safle’n parhau i fod ar gau fel rhagofal i ganiatáu gwaith glanhau llawn ac i sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.
Hoffai criwiau ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd a’u cefnogaeth wrth iddynt wneud eu gwaith.