Diffoddwyr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n gwirfoddoli i wneud dros 300 o shifftiau gan gynnwys gyrru ambiwlansys yn y frwydr yn erbyn Covid-19
Mae dros 200 o staff o bob rhan o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gwirfoddoli i gefnogi eu cymunedau a chydweithwyr golau glas drwy gynnig cymorth gan gynnwys gyrru ambiwlansys dros y chwe mis diwethaf yn ystod y pandemig.
Ers yr haf diwethaf mae 33 o ddiffoddwyr tân o bob rhan o’r Gwasanaeth wedi cwblhau’r rhaglen hyfforddi arbenigol a chefnogi ein cymunedau a’n teulu 999 fel rhan o’r ymateb i Covid-19. Roedd hi’n ofynnol felly i bersonél gwblhau cwrs ar y cyd a hwylusir gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGGAC). Roedd hyn yn cynnwys gyrru ambiwlansys, Cerbydau Ymateb Cyflym (CYC) a chynnig cymorth i barafeddygon a thechnegwyr ambiwlans yn ôl yr angen. Mae’r holl wirfoddolwyr yn ddiffoddwyr tân gweithredol â chymwysterau a phrofiad helaeth o ran cymorth cyntaf a gofal trawma. Gyda’i gilydd maent wedi ymgymryd â dros 300 o sifftiau hyd yn hyn.
Dywedodd Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM: ‘Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ynghyd â’r holl wasanaethau brys golau glas, ar draws ystod eang o feysydd i sicrhau’r lefel orau o ddiogelwch, atal ac ymateb i’n cymunedau. Rwy’n falch dros ben o’r rhai sydd wedi camu ymlaen i gynnig cymorth i YGGAG a’n cydweithwyr GIG yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn. Mae diogelwch ein staff yn hanfodol bwysig ac rydym yn gweithio’n agos gyda Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân i sicrhau bod yr holl asesiadau risg yn nodi’n glir sut y byddwn yn cadw ein pobl yn ddiogel wrth gyflawni’r gwaith hwn.
Mae iechyd a diogelwch y sawl sy’n cynorthwyo yn hollbwysig ac erbyn hyn maent wedi cael eu cynnwys yn y rhaglen frechu yn erbyn Covid-19. Bydd y cymorth hwn yn cael ei ddarparu fel rhan o’r bartneriaeth a chydweithredu teuluol y gwasanaeth brys yng Nghymru. Gyda’n gilydd rydym yn unedig yn ein hymroddiad i fod yno i’n cymunedau a chadw’r bobl rydym yn eu gwasanaethu’n ddiogel.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i fonitro’n ofalus yr holl ganllawiau a chyngor a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â Covid-19.