Diffoddwyr tân lleol yn mynd i’r afael â man tipio anghyfreithlon problemus yng Nghaerdydd
Mae criwiau Gorsaf Tân ac Achub y Rhath wedi mynychu droeon nifer o danau sbwriel yn ystod yr wythnosau diwethaf mewn lleoliad yn Ffordd Norwich, Caerdydd.
Mae pobl wedi bod yn gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon ac wedyn yn cynnau’r ysbwriel, gan beryglu bywydau.
Mae Uned Troseddau’r Gwasanaeth Tân yn gweithio’n agos gyda phartneriaid gan gynnwys tîm gorfodi’r awdurdodau lleol i hwyluso clirio i atal tipio anghyfreithlon a thanau bwriadol.
Ar adegau, bu’r gwastraff yn y man bron cymaint â degfed ran o faes pêl-droed arferol, gan arwain at effaith ddinistriol ar yr amgylchedd, a gallai hefyd effeithio’n andwyol ar iechyd preswylwyr lleol wrth i’r deunyddiau gael eu cynnau a rhyddhau nwyon a chemegau peryglus.
Y llynedd, mynychodd criwiau bron i 4000 o danau bwriadol yn Ne Cymru ac roedd dros hanner y tanau’n gysylltiedig ag ysbwriel yn cael eu cynnau’n fwriadol.
Mae tanau sbwriel yn beryglus dros ben a gallant arwain at straen ar adnoddau, gan eu tynnu, o bosib, o argyfyngau eraill lle mae bywydau mewn perygl. Gall yr hyn a fwriadwyd i fod yn dân bach yn unig ledaenu a mynd allan o reolaeth yn gyflym.
Os byddwch chi’n dewis gwaredu sbwriel gallech fod yn rhoi tanwydd ar y tân ac yn dewis cyfrannu at drasiedi. Cymerwch gyfrifoldeb a sicrhewch fod eich gwastraff yn cael ei waredu’n briodol.
Cofiwch – os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw weithgarwch amheus, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Defnyddiwch gludwr gwastraff cofrestredig bob amser. Peidiwch â rhoi tanwydd ar y tân.