Diffoddwyr tân yn mynychu bron i 80 o danau glaswellt bwriadol mewn un penwythnos yn unig.
Mae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gweld cynnydd mewn tanau gwyllt y penwythnos hwn wrth iddynt fynychu bron i 80 o danau glaswellt bwriadol rhwng Dydd Gwener a Dydd Sul.
Roedd rhaid defnyddio nifer o beiriannau tân, offer critigol gan symud adnoddau ar gyfer y rhan fwyaf o’r tanau hyn. Mae hyn fel arfer yn cynnwys peiriannau tân niferus, cerbydau tanau gwyllt arbenigol yn ogystal â hofrennydd yn y safle’n gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yr heddlu, Adnoddau Naturiol Cymru a’r awdurdod lleol.
Llosgodd un o’r digwyddiadau, yr amheuir ei fod yn fwriadol, yn agos at Orsaf Abercarn, gan beryglu personél a chyfleusterau hanfodol gwasanaeth tân ac achub mewn perygl, gyda digwyddiad arall yn llosgi ar draws 11 hectar gan beryglu da byw ac eiddo.
Mae ein Huned Troseddau Tân wedi bod yn gweithio’n ddiflino mewn partneriaeth ag Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu amlasiantaethol yn cynnwys arbenigwyr o asiantaethau allweddol ar draws Cymru â’r nod o leihau, a lle bo modd, dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.
Dywedodd Dean Loader, Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau,: “Y penwythnos hwn mae ein criwiau wedi mynychu llawer o danau glaswellt ar draws de Cymru sydd, yn ein barn ni, wedi’u cychwyn yn fwriadol. Mae rhai o’r tanau wedi bod yn anodd dros ben gan olygu bod ein criwiau’n gweithio dan amgylchiadau heriol i sicrhau nad yw’r tân yn lledaenu ac yn effeithio ar y gymuned leol gan achosi diffrod pellach i’r ardal gyfagos a bywyd gwyllt.
Bydd dargyfeirio ein hadnoddau i ymdrin â thanau bwriadol yn tynnu adnoddau hanfodol a gwerthfawr o’n cymunedau, gan achosi risg ddiangen i fywyd. Mae rhaid i hyn ddod i ben.”
Dywedodd Rhingyll Andy Jones, Adran Gymunedau a Phartneriaethau, Heddlu De Cymru: “Yn anffodus, dros y penwythnos fe gollon ni lawer o erwau o’n tirwedd hardd o ganlyniad i danau glaswellt bwriadol. Mae pob tân glaswellt yn peri risg ddifrifol i’r cyhoedd ac i eiddo ac mae’r gwasanaethau brys yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Hoffwn dalu teyrnged i’n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân sy’n gweithio’n ddiflino i gyfyngu ar y difrod a achoswyd. Mae’r gofynion ar y gwasanaeth tân yn enfawr a gall hyn lesteirio eu gallu i ymateb yn effeithiol i argyfyngau eraill. Mae ein swyddogion yn cynnal patrolau bob dydd ac maent yn defnyddio dronau, offer teledu cylch cyfyng a beiciau i gwmpasu cymaint o dir â phosib. Ond ni allant fod ym mhobman ar unwaith. Mae cyfrifoldeb ar y cyhoedd – erfyniaf ar bawb i weithredu nawr, er mwyn atal difrod pellach ac osgoi trychineb posib a allai ddigwydd gyda’r tân glaswell nesaf. Os ydych chi’n credu eich bod chi’n adnabod rhywun sy’n gyfrifol am osod tân gwyllt, dylech alw 101. Ffoniwch 999 bob amser os bydd argyfwng a pheidiwch â pheryglu eich bywyd eich hun.”
Mae cychwyn tân glaswellt bwriadol yn drosedd y gallech gael eich erlyn amdani, ac mae hefyd yn rhoi straen diangen ar adnoddau ein gwasanaeth brys, gan achosi difrod i’r amgylchedd ac eiddo ac yn peryglu bywydau.
Gyda chyfyngiadau symud yn llacio ar draws, hoffem atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus bob amser a meddwl am y canlyniadau cyn cynnau tân yn fwriadol. Gall yr hyn sy’n ymddangos yn ychydig o hwyl ledaenu’n gyflym a mynd allan o reolaeth.
Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am danau yr amheuir eu bod yn fwriadol, neu unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus, i gysylltu â 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Os ydych chi’n gweld tân, neu unrhyw un sy’n cynnau tân, ffoniwch 999 ar unwaith.