Diffoddwyr tân yn parhau i fynd i’r afael â thân mawr sy’n cynnwys 200 tunnell o fetel yn Penallta
Am tua 3:13yh Ddydd Mercher y 1af o Fedi 2021 cawsom adroddiadau am dân masnachol ger Ystâd Ddiwydiannol Penallta ar Ffordd y Gogledd yn Hengoed.
Mynychodd criwiau lluosol o wahanol Orsafoedd y lleoliad gan wynebu tân datblygedig mawr yn cynnwys tua 200 tunnell o fetel.
Gweithiodd diffoddwyr tân ag asiantaethau partner gan ddefnyddio ystod o offer a thechnegau arbenigol i ddiffodd y tân, gan gynnwys jetiau dŵr a thanciau dŵr, llwyfannau ysgolion uchel ac offer anadlu. Mae tua 50 o bersonél y Gwasanaeth Tân wedi mynychu lleoliad y digwyddiad.
Gofynnir i breswylwyr lleol i gadw ffenestri a drysau ar gau ar hyn o bryd gan fod mwg yn cronni yn yr ardal fel rhagofal diogelwch.
Mae’r digwyddiad yn parhau ar hyn o bryd ac mae criwiau’n parhau yn y lleoliad i sicrhau bydd yr eiddo a’r ardaloedd yn ddiogel.
Bydd y newyddion diweddarach yn dilyn.