Diffoddwyr Tân yn ymbil ar aelwydydd i gadw’n ddiogel yn dilyn tân damweiniol honedig mewn tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Galwyd amryfal griwiau i eiddo yn Stryd Vernon ym Mhen-y-bont ar Ogwr wythnos yma (Dydd Iau 22ain o Ebrill) yn dilyn adroddiadau o dân.
Wedi cyrraedd, daeth criwiau wyneb yn wyneb â thân oedd wedi hen gydio a effeithiodd tu fewn yr adeilad yn sylweddol.
Gweithiodd diffoddwyr tân ar y safle i archwilio’r eiddo a diffodd y tân wrth ddefnyddio ystod o gyfarpar arbenigol, gan gynnwys chwistrellau dŵr ac offer anadlu.
Gweithiodd criwiau law yn llaw â’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys, ond gwaetha’r modd cadarnhawyd un person yn farw ar y safle.
Daethpwyd â’r tân o dan reolaeth ac ar hyn o bryd mae ymchwiliad tân mewn grym i ganfod yr achos.
Parhaodd diffoddwyr tân yn y lleoliad y bore yma ac mae gwaith yn parhau i sicrhau bydd yr eiddo’n cael ei ddiogelu.
Dywedodd Jason Evans, Pennaeth Lleihau Risg: “Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i deulu a ffrindiau’r person a fu farw. Hoffwn hefyd ddiolch i’r criwiau tân am eu hymdrechion o dan yr amodau anodd. Rydym yn apelio i’r cyhoedd i gymryd gofal ychwanegol a chofio am ddiogelwch tân sylfaenol i helpu osgoi tanau o fewn y cartref. Fel Gwasanaeth, rydym wedi’n hymrwymo i gadw cymunedau’n ddiogel wrth eich helpu i adnabod a deall sut i leihau risg yn eich cartref. Bydd dilyn yr awgrymiadau diogelwch tân yn y cartref sylfaenol isod a’u mabwysiadu i’ch arferion dyddiol yn helpu gwneud eich cartref yn fwy diogel.”
Mae larymau mwg gweithiol yn arbed bywydau
Cofiwch, dim ond os yw’n gweithio’n iawn y gall larwm mwg eich rhybuddio. Sicrhewch fod gennych un a phrofwch ef yn wythnosol.
Adnabyddwch eich llwybr dianc
Cynlluniwch sut fyddwch yn dianc pe bai tân yn eich cartref. Dewch i adnabod cynllun gwacáu eich adeilad a gofynnwch i’ch rheolwr adeiladau, landlord neu warden.
Cynhaliwch arfer nosweithiol
Bob nos, cofiwch gau’r holl ddrysau, diffoddwch a dadblygiwch beiriannau. Cadwch eich ffôn ac unrhyw gymorthion symudedd gerllaw os oes angen hwy arnoch.
Cymerwch fwy o ofal wrth goginio
Cadwch unrhyw beth a all gynnau i ffwrdd o’r ffwrn. Defnyddiwch amserydd a pheidiwch byth â’i adael heb oruchwyliaeth.
Gwiriwch eich peiriannau
Dadblygiwch hwy pan nad ydynt yn cael eu defnyddio oni bai fod angen iddynt fod ynghynn drwy’r amser, e.e. oergell/rhewgell. Cadwch hwy’n lân ac mewn cyflwr gweithiol da a gwiriwch am farciau diogelwch Prydeinig neu Ewropeaidd.
Cymrwch ofal ychwanegol gyda fflamau agored a gwresogyddion
Ar bob adeg, defnyddiwch giard tân a sicrhewch nad yw canhwyllau yn agos at unrhyw beth a all gynnau. Sicrhewch na osodwyd gwresogyddion yn rhy agos i unrhyw beth ac nad oes gorchudd drostynt. Am fwy o gyngor, darllenwch y llyfryn Diogelwch yn y Cartref.
Peidiwch â gorlwytho socedi
Defnyddiwch fwyafswm o un plwg i bob soced a pheidiwch byth â’u defnyddio os ydynt yn wlyb. Am fwy o gyngor, darllenwch y llyfryn Diogelwch yn y Cartref.
Sicrhewch y diffoddwyd deunyddiau ysmygu’n llwyr
Cymrwch ofal da wrth ddiffodd a gwaredu sigaréts yn llwyr a chadwch fatsis a thanwyr ymhell o blant. Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely. Am fwy o gyngor, darllenwch y llyfryn Diogelwch yn y Cartref.
Canfyddwch ba mor ddiogel ydych chi yn eich cartref wrth gymryd ein prawf sydyn a syml. Bydd y prawf yn dweud wrthych os bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gais am ymweliad i’r cartref, lle efallai cewch fod yn gymwys am larymau am ddim.
I dderbyn cyngor Diogelwch yn y Cartref AM DDIM neu ymweliad, cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein.