Diogelwch Dŵr Cymru’n Annog Aelodau’r Cyhoedd i ‘Barchu’r Dŵr’ a ‘Chadw’n Ddiogel’
Mae Diogelwch Dŵr Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gwasanaethau brys, elusennau diogelwch, cyfleustodau dŵr, cyrff llywodraethu gweithgareddau a gweithredwyr chwareli yn annog aelodau o’r cyhoedd i gadw’n ddiogel o gwmpas dŵr. Mae diogelwch dŵr Cymru yn pryderu y gallai llacio cyfyngiadau’r Llywodraeth mewn perthynas â COVID-19 yn ogystal â’r cyfnod hir o dywydd cynnes arwain at fwy o achosion o foddi neu alwadau ar y gwasanaethau brys i gynorthwyo mewn gwaith achub yn gysylltiedig â dŵr.
Gan fod canolfannau hamdden a phyllau nofio ar gau o hyd, gall dŵr agored megis y môr, cronfeydd dŵr, llynnoedd, afonydd, pyllau a llynnoedd chwarel ymddangos yn ddewisiadau amgen deniadol ar gyfer ymdrochi am ysbaid fer neu gynnal gweithgareddau dŵr, yn enwedig os ydynt yn agos at gytrefi trefol. Er y gallai’r dyfroedd agored hyn edrych yn apelgar ar ddiwrnod poeth, byddant yn aml yn cuddio amrywiaeth o beryglon na fydd pobl yn ymwybodol ohonynt.
Er bod y tywydd yn gynnes, mae’r dŵr yn dal i fod yn oer dros ben, yn llawer is na 15°C, sef y tymheredd lle mae ‘sioc dŵr oer’ yn gallu digwydd. Mae hwn yn anadliad anwirfoddol a all ddigwydd wrth fynd yn sydyn i ddŵr oer a all arwain at sugno dŵr i’r ysgyfaint, ac mae hyn yn golygu bod yr unigolyn mewn perygl o foddi ar unwaith. Mae dŵr oer hefyd yn amharu’n sylweddol ar allu rhywun i nofio, a gall hyd yn oed nofwyr da ganfod bod eu cyhyrau’n blino’n gyflymach a gall unigolion ddrysu. Dylai unrhyw un sy’n dioddef rhag sioc gan ddŵr oer wrthsefyll y cymhelliad i fynd i banig, ac yn lle hynny dylech ymlacio ac arnofio ar eu cefn nes bod y sioc dŵr oer yn pasio a gellid cymryd y cam nesaf, boed hynny’n galw am gymorth neu nofio i ddiogelwch.
Yn ogystal â thymheredd y dŵr, mae llawer o beryglon posibl eraill megis cerrynt cryf, newidiadau yn y llanw, newidiadau annisgwyl o ran dyfnder, malurion neu lystyfiant cudd sy’n gallu anafu coessau neu lapio ei hun o’u cwmpas. Mewn dyfroedd a grewyd at ddibenion penodol, megis cronfeydd a llynnoedd chwarel, gellir hefyd gael pympiau sy’n gweithredu o dan y wyneb y dŵr, gydag ochrau serth neu ochrau sy’n malurio sy’n ei gwneud yn anodd ddod allan o’r dŵr ac yn ogystal â hynny gallai’r dŵr fod wedi’i lygru.
Dylai unrhyw un sy’n ymarfer yn yr awyr agored ar lan dŵr yr arfordir neu ddŵr mewndirol fod yn ymwybodol o’u hamgylchedd, gan gynnwys newidiadau yn y llanw, a dylid ufuddhau arwyddion diogelwch a dilyn canllawiau’r Llywodraeth. Dylech bob amser gadw modd i alw am help gyda chi a dylech ffonio 999 mewn argyfwng.
Dywedodd Dave Ansell o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru
“Nid yw newidiadau i ganllawiau’r Llywodraeth yn golygu bod y risgiau mewn lleoliadau dŵr arfordirol a mewndirol yn diflannu – mae’r peryglon sydd wedi bod yno erioed yn parhau.
Er mwyn osgoi cynyddu’r baich ar GIG rydym yn cynghori pobl i beidio â chymryd risgiau diangen wrth ymarfer gan ymarfer yn lleol yn unig.
Rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i beidio ag anwybyddu arwyddion rhybudd sydd yno i’w hamddiffyn a dim ond mynd i mewn i ddŵr os ydynt yn gwybod ei fod yn ddiogel i wneud hynny, gyda’r hyfforddiant a’r offer cywir.
Os bydd rhywun yn mynd i drafferthion, peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr i geisio eu hachub, gweiddwch arnyn nhw i dawelu eu meddyliau a dywedwch wrthyn nhw am ymlacio ac arnofio ar eu cefnau, taflwch ddyfais arnofio iddyn nhw neu ceisiwch ddefnyddio rhywbeth i’w cyrraedd tra byddwch chi’n aros ar y tir. Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub os ydych chi ar aln dŵr mewndirol a gofynnwch am Wylwyr y Glannau os ydych chi ar yr arfordir.
“Os byddwch chi’n cael trafferth mewn dŵr, ceisiwch arnofio ar eich cefn, bydd hyn yn rhoi amser i chi addasu a llonyddu eich hun, gan roi amser i help gyrraedd neu i chi allu achub eich hunan wedyn.”
Mae hefyd yn bwysig nodi nad oes dim gwylwyr y glannau SCBBA ar draethau yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r SCBBA yn gweithio’n galed i ddechrau gwasanaeth gwylwyr y glannau ar nifer o draethau yng Nghymru ond bydd hyn yn cymryd nifer o wythnosau. Mae rhieni ar hyn o bryd yn cael eu hannog i gymryd cyfrifoldeb a bod yn ‘gall o gwmpas traethau’ os ydynt yn ymweld â’r arfordir a sicrhau eu bod hwy a’u teuluoedd yn cael yr haf mwyaf diogel posibl, p’un a yw gwylwyr y glannau’n patrolio eu traeth neu beidio.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddiogelwch dŵr ar wefannau sefydliadau megis y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a’r Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau.