Diweddariad ar gyhoeddi’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol gan Fenella Morris CB (14 Rhagfyr 2023)
Diweddariad ar gyhoeddi’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol gan Fenella Morris CB (14 Rhagfyr 2023)
Datganiad gan Fenella Morris CB:
“Ysgrifennaf atoch i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr Adolygiad Diwylliant Annibynnol.
Roedd y Cylch Gorchwyl a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni yn nodi bod disgwyl i’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Ers mis Hydref, fel y dywedais yn fy niweddariad ysgrifenedig a’r fideo ar y 26ain o Hydref, mae Tîm yr Adolygiad wedi bod yn brysur yn drafftio’r adroddiad.
Rydym wedi cyrraedd y camau olaf wrth baratoi’r adroddiad ac rydym yn dal i anelu at gael yr adroddiad yn barod erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Nid oes gennym ddyddiad cyhoeddi eto, ond pan fydd gyda ni, byddwn yn diweddaru’r dudalen we hon yn unol â hynny.
Diolchaf i bawb am eich holl amser a’ch cyfraniadau i’r Adolygiad a dymunaf gyfarchion y tymor i chi.”