Diweddariad ymgyrch UKISAR yn Nhwrci
Mae ein diffoddwyr tân yn parhau i gefnogi’r ymdrechion chwilio ac achub yn Nhwrci yn dilyn y daeargrynfeydd dinistriol.
Mae’r tîm o 77 arbenigwyr Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UKISAR) wedi bod yn gweithio pedwar safle gwahanol ar lawr gwlad ac yn y diweddariad diweddaraf maent wedi bod yn cwblhau Asesiadau, Chwilio ac Achub, gan gynnwys Asesiadau Ardal Eang ac Asesiadau Brysbennu Safle Gwaith.
Ymatebodd Llywodraeth y DU ar unwaith i gais Llywodraeth Twrci am gymorth ac mae timau UKISAR wedi bod ac yn parhau i weithio’n ddiflino mewn ymgais i achub cymaint o fywydau â phosibl. Mae’r tîm, o’r diweddariad diweddaraf, wedi cael chwe achubiad byw.
“Mae’r dinistr yma yn anhygoel.” – Rheolwr Criw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Emma Atcherley.
Gwyliwch y cyfrif fideo gan Reolwr Criw Emma Atcherley sy’n ymwneud â gweithrediadau ar lawr gwlad (Saesneg yn unig).
Mae tri diffoddwr tân o Dde Cymru ar leoliad yn Nhwrci ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u profiad arbenigol, maent yn gweithio wrth ochr chydweithwyr UKISAR i frysbennu adeiladau a chynnal gweithrediadau chwilio ac achub.
Pwyllgor Argyfwng Trychineb Apêl Daeargryn Twrci-Syria
Mae’r daeargrynfeydd dinistriol yn Nhwrci a Syria wedi lladd miloedd o bobl ac mae cannoedd o adeiladau wedi’u dinistrio.
Mae elusennau’r Pwyllgor Argyfwng Trychineb (DEC) a’u partneriaid lleol yn gweithio i gynyddu eu hymateb a helpu mwy o bobl.
Mae goroeswyr yn wynebu amodau rhewllyd ac angen cymorth brys. Gallwch chi helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng drwy wneud cyfraniad a helpu i godi arian ar gyfer apêl y DEC. Drwy gyfrannu at yr apêl, byddwch yn helpu elusennau’r DEC darparu gofal meddygol hanfodol, lloches brys, bwyd a dŵr glân.
Bydd yr arian yn rhoi cymorth brys i’r bobl mae’r daeargrynfeydd dinistriol wedi’u heffeithio. Bu farw mwy na 21,000 o bobl ac anafwyd llawer mwy.