Daeth ymwelwyr o bob rhan o Dde Cymru i Blass Roald Dahl, Bae Caerdydd ar gyfer Diwrnod 999 blynyddol y Gwasanaethau Brys, Ddydd Sadwrn, y 7fed o Fedi.

GTADC oedd yn cynnal y diwrnod ac mae’r digwyddiad yn nodi’r diwrnod mwyaf yng nghalendr ein Gwasanaeth, gan roi cyfle i bartneriaid golau glas ddod at ei gilydd a dangos i’r cyhoedd yr hyn y gallant ei wneud.

Darparodd ein cydweithwyr, oedd yn cynnwys Heddlu De Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGAC), Ambiwlans Sant Ioan, Gwylwyr y Glannau EM a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, lu o gerbydau ac offer, gan ychwanegu at amrywiaeth drawiadol o alluoedd oedd yn cael eu harddangos gan GTADC.

 

Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Rheolwr Gorsaf Nev Thomas: “Mae hi’n wych cael gweld cymaint o wynebau’n gwenu yma heddiw.

“Rwy’n falch iawn o’r holl waith caled y mae ein staff corfforaethol a gweithredol wedi’i wneud i wneud y digwyddiad hwn yn gymaint o lwyddiant, a gweld drosto i fy hun y cydweithio, cydweithredu a chynhwysiant gwirioneddol gyda’n sefydliadau partner.

“Mae heddiw yn rhoi cyfle i ni rannu’r holl waith da mae’r Gwasanaeth yn ei wneud gyda’r gymuned, a rhoi sicrwydd iddyn nhw ein bod ni yma iddyn nhw.”

Cynhaliodd personél GTADC ac YGAC arddangosiadau gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd (GTFf) yn ogystal ag echdynnu yn yr arena ganolog, gan ddangos i aelodau’r cyhoedd sut mae sefydliadau’n cydweithio i echdynnu a thrin anafiadau.

 

Dywedodd Ymatebydd Lles YGAC, Charlie Martin: “Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Tân wrth ddelio â damweiniau traffig – sy’n sicrhau ein bod yn cael ein cadw’n ddiogel a’r cerbyd yn sefydlog – i ni gael rhoi sylw i’r anafedig.

“Mae heddiw wedi bod yn wych achos mae wedi rhoi cyfle i’r holl wasanaethau brys feithrin cydberthnasau a dod i adnabod galluoedd, prosesau a gweithdrefnau ei gilydd yn well, gan arwain at gydweithio ar alwadau brys mwy llyfn.

“Mae hefyd wedi rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd edrych ar ein hoffer a’i dreialu. Yma, mae gyda ni ambiwlansys criw ffordd, y cerbyd ymateb mynydd garw, ac aelodau o’r Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus (HART) a’r Tîm Ymateb Beiciau, yn rhoi arddangosiadau CPR ac yn addysgu pobl am sut i ddefnyddio diffibrilwyr a’r math o ymatebion y gallwn eu darparu mewn argyfwng.”

 

Roedd cyfle i roi cynnig ar brawf ffitrwydd Ymladdwyr Tân wedi ysbrydoli brodyr Matt a Luke Rowe, sy’n seiclwyr proffesiynol dros Gymru, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth gyfeillgar i weld pwy allai gyflawni’r amser gorau.

Yn y prawf, curodd Matt, tri deg chwech oed, ei frawd iau, Luke, 34 oed, yn y gystadleuaeth gydag amser trawiadol o 3.39 munud yn y prawf, oedd yn cynnwys datod riliau pibell a chario bariau pwysol yn gyflym, yn gwisgo cit llawn.

Dywedodd Matt: “Mae’n bendant yn anoddach na’i golwg!

“Mae’r teulu cyfan wedi mwynhau bod yma heddiw yn fawr iawn, ac mae’r plant wedi mwynhau’n cael mynd i gefn y cerbydau’n arbennig . Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig eu cyflwyno i’r heddlu a’r gwasanaethau tân o oedran ifanc, i werthfawrogi beth maent yn ei wneud.” Dywedodd wedyn.

Dywedodd Luke: “Roedd yn anodd. Fel beiciwr, dwi’n cael trafferth gydag unrhyw beth sy’n ymwneud â’r fraich, felly roedd hi’n bendant yn her! Dim ond tua 1 cilogram o bwysau yw fy ngwisg feicio, felly roedd rhoi cynnig ar wisgo gwisg y Diffoddwr Tân 9 cilogram yn dipyn o sioc!!

“Rwyf wedi dod â’r ddau blentyn achos rwy’n meddwl ei bod yn syniad da eu haddysgu i barchu’r gwasanaethau brys – dydych chi byth yn gwybod a allai fod sefyllfa pan fydd eu hangen i’w helpu neu i achub eu bywydau – ac fel teulu, ni i gyd wedi mwynhau’r diwrnod yn fawr.”

 

Roedd aelodau o Heddlu Marchogol Heddlu De Cymru, y Tîm Cymorth Tiriogaethol, yr Unedau Traffig a Chŵn hefyd yn bresennol, gyda’r cŵn a’u trinwyr yn dangos gallu’r anifail i ddal troseddwyr, yn ystod arddangosiad ben bore.

Eglurodd Joshua Willis, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu gyda Thîm Plismona Bae Caerdydd: “Dyma’r tro cyntaf i mi weithio yn y digwyddiad hwn, ac mae wedi bod yn gyfle arbennig o dda i ymgysylltu â’r gymuned.

“Mae wedi bod o gymorth mawr wrth chwalu’r rhwystrau rhwng yr heddlu ac aelodau’r cyhoedd, sy’n arbennig o bwysig gyda phobl ifanc. Drwy gydol fy ngyrfa gyda’r heddlu, rwyf wedi gweld y gall plant fod yn ofnus o’r heddlu, felly mae’n bwysig meithrin cysylltiadau’n gynnar fel y gallant fagu hyder ac ymddiriedaeth ynom.”

Mwynhaodd tyrfaoedd mawr wylio’r Cadetiaid Tân yn arddangos technegau diffodd tân a dangosodd criwiau o’r Barri dechnegau achub â rhaff ac offer arbenigol i ddod o hyd i anafedig yn hongian o ffenestr uchaf Canolfan Mileniwm Cymru, a chynhaliodd Diffoddwyr Tân Math B o Benarth achubiad dŵr o’u cwch yn ardal harbwr Bae Caerdydd.

Gyda Masgot GTADC, Sbarc y Ddraig, Kim y Parafeddyg YGAC, a Stormy Stan o’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn ymddangos yn annisgwyl – er mawr lawenydd i’r bobl ifanc oedd yno. Roedd Byddin yr Iachawdwriaeth yn rhoi bwyd a diod i staff y gwasanaethau brys diolchgar trwy gydol y dydd gan gynnal morâl uchel i ymwelwyr a staff fel ei gilydd, a gallem ddweud heb os nac oni bai bod Tîm De Cymru eisoes yn edrych ymlaen at strafagansa’r flwyddyn nesaf!