Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024
Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024
#YsbrydoliCynhwysiant
Ar yr 8fed o Fawrth bob blwyddyn, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (DRhM) yn cael ei ddathlu ledled y byd, a thema’r ymgyrch eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant.
Rydym yn falch o gefnogi’r gwerthoedd sy’n arwain DRhM; hyrwyddo byd cyfartal o ran rhywedd, heb ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu. Byd sy’n amrywiol a chynhwysol, lle mae menywod yn rhydd i fanteisio ar yr un cyfleoedd â dynion.
Fe wnaethom ofyn i’n menywod ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru rannu eu llwyddiannau mwyaf er mwyn anrhydeddu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Gwyliwch y fideo isod i ddarganfod beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud.
Ychwanegodd Rheolwr Gorsaf, Lauren Jones:
“Gan taw thema DRhM eleni yw ‘Ysbrydoli Cynhwysiant’, mae’n rhaid i ni anelu at greu gweithle lle mae pawb yn cael cyfle teg, gan gynnwys pobl o bob cefndir, rhyw, hunaniaeth a statws cymdeithasol.
“Nid set o strategaethau yw cynhwysiant, mae’n ymwneud â pherthyn i gymuned. Fel merch ifanc mewn rôl, rwy’n credu bod yn rhaid i ni barhau i ysbrydoli eraill, trwy bortreadu modelau rôl benywaidd cadarnhaol wrth ddarparu rhwydwaith cefnogol i ganiatáu i eraill herio eu hunain ac ymgrymuso. Gyda’n gilydd, gallwn ni i gyd greu gweithlu mwy cynhwysol.”
Cefnogi menywod yn y gwaith
Heddiw achubwn ar y cyfle i ddathlu ein merched ar draws y Gwasanaeth, yn ogystal â’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud i sicrhau cydraddoldeb. Darllenwch fwy i ddarganfod rhagor.
Er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle, rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein darpariaeth mamolaeth gyda’r bwriad o gymeradwyo 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth â thâl ar gyfer gweithwyr cymwys. Bydd manylion pellach yn dilyn cyn bo hir.
Eitemau ar gyfer y Menopos a’r Mislif ar y Safle
Cydnabu grŵp ‘Eich Iechyd’ GTADC yr angen yn ddiweddar am fwy o gymorth i staff y Gwasanaeth ar gyfer y menopos a’r mislif. O ganlyniad, bydd menter newydd o’r enw ‘Eitemau ar gyfer y Menopos a’r Mislif ar y Safle’ yn darparu cyflenwad o becynnau ar gyfer y menopos a’r mislif ar bob safle a hefyd ar bob un o’n peiriannau a cherbydau fflyd.
Mae’r pecynnau’n cynnwys tyweli mislif, tamponau, menig latecs, cadachau ffresni personol, cadachau glanhau dwylo, bagiau gwastraff clinigol, ac amrywiaeth o ddillad isaf tafladwy.
Fel rhan o nifer o ystyriaethau sy’n cael eu gwneud i gefnogi lles meddyliol a chorfforol yn y gwaith, anfonwyd y pecynnau lles hyn i bob safle ar ddechrau mis Chwefror.
Ymwybyddiaeth o’r menopos o fewn y Gwasanaeth
Rydym yn cydnabod bod y menopos yn gallu bod yn gyfnod anodd sy’n achosi straen i’r rhai sy’n profi’r symptomau. Dyna pam ei bod yn bwysig i ni gefnogi ein staff bob cam o’r menopos.
Mae cwrs e-ddysgu newydd sbon am ymwybyddiaeth o’r menopos wedi’i ddatblygu a’i lansio’n fewnol, ar gyfer yr holl staff. Rydym yn annog cymaint o bobl â phosibl i gwblhau’r cwrs 30 munud hwn, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r menopos a’r effaith y gall ei gael ar y menywod o’n cwmpas.
Mae hefyd ffurflen hunan-atgyfeirio pellach ar gyfer unrhyw un sydd angen mynediad at Iechyd Galwedigaethol i gael cymorth sy’n gysylltiedig â’r menopos.