Diffoddwyr tân yn achub preswylydd mewn oed o dân mewn tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Ymatebodd criwiau o Ben-y-bont ar Ogwr i alwad yn oriau man fore ar Ddydd Iau 12fed o Fedi 2019 yn dilyn adrodd am dân mewn tŷ yn ardal Coytrahen, Pen-y-bont ar Ogwr.
Daeth diffoddwyr tân yn gwisgo offer anadlu o hyd i breswylydd mewn oed ar lawr cyntaf yr eiddo. Codon ysgol ymestyn driphlyg i flaen y tŷ a llwyddon i achub y preswylydd, a gafodd driniaeth gan barafeddygon yn y fan a’r lle, a diffodd y tân.
Aethpwyd â’r preswylydd i’r ysbyty. Mae ymchwiliad i’r tân ar waith er mwyn dod o hyd i achos y tân.
Dywedodd Rheolwr Gorsaf Richie Smart: “Hoffwn gymeradwyo’r criwiau am weithredu mor gyflym oedd wedi sicrhau ei bod hi’n bosib achub y preswylydd yn syth