Pum Peiriant Tân o’r Radd Flaenaf yn Barod i Amddiffyn De Cymru
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cyflwyno pum peiriant tân newydd o’r radd flaenaf gyda thechnoleg uwch i gynorthwyo diffoddwyr tân wrth ymateb i argyfyngau.
Mae tri o’r rhain â chynllun traddodiadol gyda’r offer anadlu wedi’i osod yn y cab. Y ddau beiriant tân arall yw’r rhai cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r cynllun cab glân. Am y tro cyntaf, felly, gwelir y setiau o offer anadlu Draeger newydd yn cael eu gosod yng nghorff y peiriant yn hytrach nag yng nghab y criw ôl. Gwneir hyn er mwyn helpu i wella’r dyluniad ergonomig a sicrhau bod gan gab y criw awyrgylch lanach a mwy di-haint. Gan ddibynnu ar yr adborth a dderbynnir, mae gan yr Adran Fflyd a Pheirianneg y gallu i addasu’r cab i’r hyn a ddymunir neu’r hyn sy’n fwyaf poblogaidd gan dynnu ar ddyluniadau cabiau glan a chab traddodiadol.
Mae gan gorff y peiriannau newydd ddrysau loceri wedi’u ffitio’n dynn i leihau’r perygl o fachu neu daro gwrthrychau ar hyd ffyrdd bach gwledig cul. Mae’r peiriannau hefyd yn cynnwys pympiau electronig ac mae ganddynt sgriniau arddangos newydd, mwy o faint, yn y locer pwmp.
Dechreuodd hyfforddiant cynhwysfawr ar y peiriannau newydd ddiwedd mis Mai a bydd yn para am gyfnod o tua chwe wythnos ar gyfer y 116 o aelodau personél gweithredol o’r pum gorsaf sy’n derbyn y peiriannau Scania newydd. Mae’r Adran Fflyd a Pheirianneg yn gweithio’n agos gyda’r Adran Rheoli Risg Weithredol a gofynnir i staff gweithredol roi adborth a barn am yr offer newydd dros y misoedd nesaf. Bydd yr adborth hwn yn hanfodol a bydd yn bwydo’n uniongyrchol i’r ffordd y bydd offer y peiriannau’r Gwasanaeth yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol.
Y gorsafoedd sy’n derbyn y ddau fodel gyda chabiau glân fydd Malpas a Phontypridd a bydd y tri pheiriant arall â chabiau cynllun traddodiadol yn cael eu hanfon i’r Dyffryn, y Rhath a Merthyr Tudful. Bydd yr offer hŷn sy’n dod o’r gorsafoedd hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi a byddant yn beiriannau wrth gefn i’r Adran Fflyd a Pheirianneg.