Gorsaf Treorci yn ailagor yn dilyn adnewyddiad

Ar Ddydd Mawrth y 3ydd o Ragfyr, ail-agorodd Gorsaf 09, Treorci, yn swyddogol yn dilyn prosiect adnewyddu estynedig a welwyd yr orsaf yn cael ei moderneiddio ar ôl dros 50 mlynedd o weithredu.

Wedi’i hadeiladu ym 1973, bu gorsaf dân Treorci’n gonglfaen yr ymateb brys yng Nghwm Rhondda ers hir, yn cwmpasu cymunedau fel Treherbert a Chwmparc.

Ar achlysur 51fed pen-blwydd agoriad cyntaf yr orsaf, gwahoddwyd gwesteion nodedig, criwiau a’u teuluoedd a chydweithwyr ledled y Gwasanaeth i ddathlu’r ailagoriad, a goffawyd gan blac er cof am yr achlysur.

Roedd Prif Swyddog Tân Fin Monahan, Maer Rhondda Cynon Taf Mr Daniel Owen-Jones, Y Cynghorydd Robert Harries, Y Cynghorydd Sera Evans, Comisiynydd Vij Randeniya a Chaplan Tân ac Achub De Cymru Mr Paul Thomas hefyd ymhlith y rhai a fynychodd y digwyddiad.

Yn ei anerchiad agoriadol, mynegodd Rheolwr Gorsaf Nick Jones yr aberthau anhunanol a wnaed gan ein Diffoddwyr Tân wrth iddynt gyflawni eu dyletswydd, gan glodfori agwedd ac ymrwymiad y criwiau sy’n byw i wasanaethu’u cymunedau.

Tra soniodd Maer Rhondda Cynon Taf am ei fraint wrth fynychu’r digwyddiad, a phan gyfarchodd y criwiau, meddai “Ry’n ni’n eich edmygu â pharch, ac edrychwn ymlaen at yr 50 mlynedd nesaf”.

Rheolwyd y prosiect werth £1.2 miliwn gan John Weaver (Contractwyr) Cyf ac mae’n cynnwys gwelliannau sylweddol, gan gynnwys tŵr hyfforddi newydd, estyniad un llawr newydd, cynlluniau mewnol wedi’u hailwampio a gwell systemau mecanyddol a thrydanol.

   

Mae’r seilwaith uwchraddedig yn cefnogi personél yr orsaf sy’n bennaf ar alwad, sy’n chwarae rôl hanfodol wrth ymateb yn sydyn i argyfyngau ar draws y rhanbarth. Ac er gwaethaf y gwaith adeiladu estynedig, parhaodd y peiriant tân i wasanaethu, yn arddangos ymroddiad y tîm at wasanaeth di-dor.

Mae’r adnewyddiad yn alinio â strategaeth ehangach Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i foderneiddio ei gyfleusterau, wrth fynd i’r afael ag anghenion cyfoes megis gwell gwagleoedd hyfforddi a mannau ymgysylltu cymunedol ehangach.

Ar ben hyn, cydnabuwyd y prosiect am ei hansawdd ac am leiafswm amhariaeth y prosiect, gan dderbyn marciau uchel o dan Gynllun Adeiladwyr Ystyrlon.

Bwriad yr ymdrech foderneiddio hon yw diogelu’r orsaf at y dyfodol, gan sicrhau y gall barhau i gwrdd ag anghenion y boblogaeth leol sy’n tyfu wrth ddyrchafu diogelwch a darpariaeth gwasanaethau am ddegawdau i ddod.

Cafodd Liam Rose, y Rheolwr Adeiladau a Chynnal a Chadw, a oedd yn Arweinydd Prosiect ar gyfer yr adnewyddu, ei gydnabod ar gyfer ei rôl hanfodol wrth wireddu’r orsaf newydd, law yn llaw â’r tîm TGCh, Cyllid a’r holl gontractwyr a weithiodd mor galed ar y prosiect.