Gorsafoedd Tân ar draws De Cymru yn dod yn ‘Hafanau Diogel’
Mae Gorsafoedd Tân Cymunedol ar draws De Cymru bellach wedi’u dynodi’n ‘Hafanau Diogel’ ar gyfer aelodau o’r cyhoedd sy’n teimlo dan fygythiad, wedi’u dychrynu neu mewn perygl.
O’r 25ain o Dachwedd 2021 ymlaen, bydd pob un o’r 47 o Orsafoedd Tân ac Achub De Cymru yn ‘Hafanau Diogel’. Mae hyn yn golygu y gall pobl sy’n teimlo’n agored i niwed ac mewn perygl uniongyrchol, o ganlyniad i stelcwyr, cam-drin domestig neu unrhyw fygythiad arall fynd i un o Orsafoedd y Gwasanaeth am gymorth a chefnogaeth. Mae Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn menywod a merched yn cael ei lansio’r un pryd ag ymgyrch genedlaethol y Rhuban Gwyn. Mae Hafanau Diogel yn bodoli achos ymateb i lofruddiaeth drasig Sarah Everard, a sbardunodd drafodaeth am statws diogelwch menywod yn y DU.
Bydd pob Gorsaf yn arddangos arwyddion amlwg, felly bydd pobl sy’n mynd heibio’n gwybod beth i’w wneud mewn sefyllfa fregus a pheryglus. Mae rhai o’n Gorsafoedd yn ‘Ar Alwad’ sy’n golygu nad oes criwiau yn yr Orsaf 24/7. Felly gofynnir i’r sawl mewn angen ddefnyddio’r rhif a ddengys yn glir ar ein harwyddion ar gyfer Gorsafoedd Hafanau Diogel i alw am gymorth.
Dywedodd Jason Evans sy’n Bennaeth yr Adran Lleihau Risg, a Rheolwr Ardal gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Rydym yn gysylltiedig â diogelu’r cyhoedd drwy ymladd tanau ac achub pobl, ond credwn hefyd fod gennym gyfrifoldeb hanfodol dros gadw pobl yn ddiogel rhag niwed drwy fod yn hafan ddiogel i bobl ddod o hyd i le diogel pan fyddant mewn angen neu’n bryderus. Mae ein Gorsafoedd yn fannau diogel lle gall aelodau’r cyhoedd fynd os ydynt yn teimlo eu bod yn agored i niwed, mewn perygl neu dan fygythiad o niwed. Mae ein Gorsafoedd yn lleoedd croesawgar a chyfeillgar yng nghanol y gymuned, gan eu gwneud yn lleoliadau delfrydol ar gyfer hafanau diogel. Mae’r holl griwiau sy gyda ni wedi’u hyfforddi’n drylwyr i’ch diogelu a byddant yn gallu eich cefnogi. Mae ein diffoddwyr tân yn brofiadol o ran helpu pobl ar adegau trawmatig a bydd y fenter yn ein helpu i barhau i wasanaethu’r cyhoedd pan fydd eu hangen arnoch fwyaf.”
Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaethau Cymdeithasol: “Mae’r fenter ‘Hafanau Diogel’ hon ar gyfer menywod a merched sydd mewn perygl o drais, ymosodiad rhywiol a cham-drin domestig i’w chroesawu’n fawr. Ein huchelgais dros Gymru yw rhoi terfyn ar bob trais yn erbyn menywod a merched a dyna pam yr ydym yn ehangu ein Strategaeth Genedlaethol i gynnwys trais, cam-drin ac aflonyddu ar y stryd a’r gweithle yn ogystal â’r cartref. Dim ond drwy bartneriaeth a chydweithredu y gallwn gyflawni hyn, ac mae’r fenter hon yn enghraifft ardderchog o wasanaeth yng Nghymru sy’n sefyll i fyny ac yn cefnogi’r rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, dioddef trais a’u haflonyddu. Ni fydd Cymru’n dioddef trais a cham-drin.”
I gael rhestr lawn o Orsafoedd tân ar draws De Cymru ewch i’r Map Gorsafoedd.