GTADC yw’r cyntaf i gyflwyno Crimestoppers ‘Dywedwch GTA’
Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru (GTADC) yw’r gwasanaeth tan ac achub cyntaf o fewn y DU i gyflwyno llinell cyngor a gwefan newydd Crimestoppers o’r enw ‘Dywedwch GTA’.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei lansio heddiw (Dydd Iau 6 Ebrill) a bydd yn caniatau i unrhyw staff GTADC gyda phryderon am ymddygiad neu arfer amhriodol i’w codi gyda hyder ac yn ddienw yn uniongyrchol â Crimestoppers.
Bydd y gwasanaeth Newydd yn rhoi lle diogel i staff GTADC siarad am bethau nad ydynt yn iawn, gan gynnwys gwahaniaethau ac aflonyddu, casineb at wragedd a thrais yn erbyn menywod a merched, twyll a llygru a thorri trefniadau iechyd a diogelwch.
Dywedodd Alison Reed, Prif Swyddog Cynorthwyol Gwasanaethau Pobl:
“Fel Gwasanaeth, rydym wedi ymrwymo i wneud GTADC yn lle diogel i bawb weithio ynddo.
“Er bod nifer o ffyrdd i staff godi pryderon gyda ni, rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd siarad, yn enwedig am eich cyflogwr neu gydweithwyr.
“Mae heddluoedd yn y DU wedi addasu’r gwasanaeth ar gyfer eu defnydd unigol ac rydym yn obeithiol y bydd adrodd yn ddienw yn galluogi staff ar draws ein sefydliad i adrodd unrhyw beth amhriodol y maent yn ei weld neu’n ei brofi.
“Gall staff godi pryderon drwy eu rheolwr llinell, y cyfrif e-bost adrodd pryderon neu drwy ein gweithdrefn chwythu’r chwiban. Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu arf ychwanegol i staff allu lleisio barn ac mae’n gwbl ar wahân i’r mecanweithiau presennol sydd ar gael iddynt.”
Dywedodd Ruth McNee, Pennaeth Datblygu Busnes gyda’r elusen Crimestoppers,:
“Fel elusen annibynnol, mae Crimestoppers ar flaen y gad o ran adrodd yn ddienw ac yn gyfrinachol i lawer o sefydliadau ar draws y DU.
“Rydym yn falch iawn o weithio gyda GTADC, sef y gwasanaeth tân cyntaf yn genedlaethol i ymuno â gwasanaeth adrodd Dywedwch GTA.
“Mae Dywedwch GTA yn galluogi pawb o fewn GTADC i adrodd eu pryderon naill ai 100% yn ddienw neu’n gyfrinachol, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.”